CATRIN ferch GRUFFUDD ap HYWEL (fl. c. 1555), bardd

Enw: Catrin ferch Gruffudd ap Hywel
Priod: Robert ap Rhys
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

O Landdeiniolen (h.y. Llanddeiniolfab neu Landdanielfab) ym Môn. Cadwyd ei gwaith yn B.M. Add. MSS. 14892, 14906, 14994, ac NLW MS 695E , NLW MS 1553A , NLW MS 1559B , NLW MS 2602B , NLW MS 6209E ; y mae'n cynnwys awdl foliant i Grist (neu, yn ôl rhai llawysgrifau, awdl merch glaf er coffa Crist a'i ddioddefaint, neu awdl gyffes pechadures) a phedwar englyn i haf oer 1555.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.