CHARLES, DAVID, II (1803 - 1880), gweinidog ac emynydd

Enw: David Charles
Dyddiad geni: 1803
Dyddiad marw: 1880
Priod: Ann Charles (née Milnes)
Priod: Sarah Charles (née Charles)
Plentyn: David Roberts Charles
Rhiant: David Charles
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yng Nghaerfyrddin, mab David Charles I. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y dref a'r Coleg Presbyteraidd, ac aeth i weithio at ei dad. Yn ddiweddarach dechreuodd bregethu, fel yntau, yn wr canol oed, ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1851. Bu'n flaenllaw yn ei gyfundeb; llanwodd gadair y Gymdeithasfa yn y Deau yn 1853, a bu'n gyd-ysgrifennydd Coleg Trefecca o 1842 i 1852. Yn 1823 cyhoeddodd fisolyn bychan yn dwyn y teitl Yr Addysgydd, ac ef oedd prif olygydd Casgliad o Hymnau Hen a Newydd at wasanaeth y Trefnyddion Calfinaidd, 1841. Cyfansoddodd, neu gyfieithu, llawer o emynau adnabyddus. Priododd (1), Sarah, ferch Thomas Rice Charles - bu hi farw yn 1833, a (2), Ann, merch Richard Roberts, Lerpwl. Bu iddynt un mab, David Roberts Charles. Bu farw 10 Mai 1880 yn nhy ei fab, a'i gladdu yn Ulverston, Lancashire.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.