CHARLES, DAVID III (1812-1878), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: David Charles
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1878
Priod: Mary Charles (née Jones)
Priod: Kate Charles (née Roberts)
Rhiant: Maria Charles
Rhiant: Thomas Rice Charles
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awduron: Thomas Iorwerth Ellis, Robert Thomas Jenkins

Mab Thomas Rice Charles a Maria ei wraig, ac wyr i Thomas Charles; ganwyd yn y Bala 23 Gorffennaf 1812. Cafodd ei addysg yn y Bala ac yn y Waun, a bu'n ddisgybl i reithor Llanycil; derbyniwyd ef i Goleg Iesu, Rhydychen, Mai 1831, a graddiodd yn B.A. yn 1835. Dychwelodd i'r Bala, a chyda'i frawd-yng-nghyfraith, Lewis Edwards, cychwynnodd yn 1837 ysgol a ddatblygodd yn ddiweddarach yn Goleg y Bala. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1841, ac yn 1842 penodwyd ef yn brifathro Coleg Trefeca. Bu yno am 20 mlynedd. Yn Ionawr 1863 aeth i fugeilio eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Abercarn, sir Fynwy, ac ar ôl treulio pum mlynedd yno ymgymerodd â gwaith trefnu ar gyfer Coleg Prifysgol Cymru, a agorwyd yn Aberystwyth yn 1872. Pan benodwyd ei nai T. C. Edwards yn brifathro, ymddeolodd o'i swydd, ac yn ddiweddarach aeth i fyw i Aberdyfi, lle y bu farw 13 Rhagfyr 1878. Yn 1869 ef oedd llywydd Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd.

Priododd (1), 1839, Kate Roberts o Gaergybi, (2), 1846, Mary, merch Hugh Jones o Lanidloes a gweddw Benjamin Watkins. Bu iddynt dri o blant, a chollwyd dau ohonynt yn eu plentyndod. Gadawodd weddw ac un ferch. Claddwyd ef yn Llanidloes.

THOMAS CHARLES, F.R.C.S. (1811? - 1873), meddyg

Brawd David Charles. Bedyddiwyd ef ar 10 Ionawr 1811. Bu'n feddyg ym Mhorthaethwy (1841-6), ac wedyn yn Llundain; ymfudodd tua 1855 i Sydney, ond dychwelodd i Gymru tua 1870, i ddilyn ei alwedigaeth ym Mhenfro ac wedyn yn Aberystwyth, lle y bu farw 11 Ebrill 1873. Gellir nodi dwy ffaith amdano. Yn y Carnarvon and Denbigh Herald, 11 Rhagfyr 1841, y mae ganddo brotest gref (peth anarferol mewn Methodist Calfinaidd o'r cyfnod hwnnw) yn erbyn cais cyfarfod misol Môn i 'ymyrraeth â'm hawl i'm barn ar faterion gwleidyddol' trwy warafun i'w aelodau fynd i gyfarfod ym mhlaid masnach rydd, yng Nghaernarfon. Ac yn Ebrill 1854, yn ei dy ef yn Llundain y cyfarfuwyd i hyrwyddo coleg prifysgol i Gymru (Davies a Jones, The University of Wales, 69-70).

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.