CHARLES, PHILIP (1721?-1790), gweinidog Presbyteraidd.
Ychydig a wyddys amdano; gan ei fod yn nai i Philip David [q.v.], odid nad dyn o sir Fynwy oedd.Ymddengys yr enw ar restr academi Caerfyrddin yn 1745. Yn 1749, dilynodd Richard Rees [q.v.] yn weinidog cynulleidfa Cefn-coed-cymer, a oedd newydd ei chorffori — cangen o Gwm-y-glo. Armin oedd Philip Charles, a thebyg iddo wedyn ddatblygu'n Ariad. Bu f. 19 Mai 1790. Y mae amryw gyfeiriadau ato yn nyddiaduron ei ewythr.
Llyfryddiaeth:
- Yr Ymofynnydd, 1930;
- T. Lewis, Hanes Hen Dy Cwrdd, Cefn Coed y Cymer (d.d.), 78-80.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.