CHARLES, THOMAS ('Charles o'r Bala'; 1755 - 1814)

Enw: Thomas Charles
Ffugenw: Charles O'r Bala
Dyddiad geni: 1755
Dyddiad marw: 1814
Priod: Sally Charles (née Jones)
Plentyn: David James Charles
Plentyn: Thomas Rice Charles
Rhiant: Jael Charles (née Bowen)
Rhiant: Rees Charles
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Roberts

Ganwyd 14 Hydref 1755 yn Longmoor (yn ôl pob tebyg), ym mhlwyf Llanfihangel Abercywyn, Sir Gaerfyrddin, mab Rees Charles, ffermwr, a'i briod Jael. Ar adeg geni Thomas, daliai'r tad fferm fawr Pant Dwfn a'i phlasty bychan, ond nid yw yn debyg ei fod wedi symud yno i fyw. Yr oedd y fam o haen uwch mewn cymdeithas - yr oedd yn ferch i David Bowen, Pibwr Lwyd, siryf Caerfyrddin yn 1763. Anfonwyd ef i ysgol ym mhentref Llanddowror; yno daeth i adnabod hen wr duwiol o'r enw Rees Hugh, un o hen wrandawyr Griffith Jones, Llanddowror. Yn 1769 aeth i academi Caerfyrddin, dan Jenkin Jenkins, a bu yno am chwe blynedd. Yn ystod blynyddoedd Caerfyrddin bu digwyddiad a adawodd argraff mawr ar ei holl fywyd - yn 1773 clywodd Daniel Rowland.

Ym Mai 1775 gadawodd Gaerfyrddin ac aeth i Goleg Iesu, Rhydychen; graddiodd yno yn B.A. Urddwyd ef yn ddiacon yn Rhydychen ym Mehefin 1778. Gwnaeth Charles lu o gyfeillion yn Rhydychen; i'r blaid efengylaidd y perthynent i gyd. Yn 1777 bu ar ymweliad â John Newton yn Olney. Pan adawodd Rydychen treuliodd ddarn mawr o'r haf yn ymweld â'i gyfaill Simon Lloyd yn y Bala. Oddi yno aeth i Langeitho i glywed Daniel Rowland yn pregethu. Ar ei ffordd yn ôl i Loegr traddododd ei bregeth gyntaf yn eglwys ei blwyf genedigol a Rees Hugh yn gwrando arno. Bu'n gurad mewn amryw leoedd yng Ngwlad yr Haf hyd 1783.

Yn ystod y blynyddoedd hyn, daeth dylanwad newydd i'w fywyd. Y mae'n debyg ei fod, ar ei ymweliad cyntaf â'r Bala yn 1778, wedi gweled Sally Jones o'r dref honno, merch i David Jones, siopwr cefnog a fu farw yn fuan ar ôl ei geni. Priododd ei mam Thomas Foulkes, y Methodist Wesleaidd a Chalfinaidd. Y diwedd fu priodi yn eglwys Llanycil ar 20 Awst 1783. Yna, agorwyd tri drws iddo i wasanaethu yn yr eglwys, ond caewyd hwy yn fuan iawn. Pregethodd am ddau Sul yn Llangynog, ond ar ôl yr ail dywedwyd wrtho na byddai angen am ei wasanaeth mwy. Wedyn aeth i gynorthwyo ei gyfaill, y Parch. Simon Lloyd, yn Llandegla a Bryneglwys. Caewyd drws un o'r eglwysi yn ei erbyn ar yr ail Sul gan y plwyfolion, ac ni bu drws y llall yn agored iddo am fwy na mis. O'r diwedd penodwyd ef yn gurad i'r Parch. Edward Owen yn Llanymawddwy, a dechreuodd ar ei waith yno (gan gymryd holl ofal y plwyf gan na phreswyliai y rheithor yn yr ardal) 25 Ionawr 1784. Cysurwyd ef yn fawr o gael cyfle i wasanaethu. Nid oedd unrhyw gwyn gan y plwyfolion yn ei erbyn. Yn wir, llofnododd nifer ohonynt ddeiseb yn gofyn am iddo gael aros yno. Ond cyn pen tri mis rhoddwyd rhybudd iddo ymadael, a chymerodd y gwasanaeth yno am y tro diwethaf 18 Ebrill 1784.

Erbyn hyn yr oedd ei safle yn eglur ddigon. Ni fynnai ei wraig adael y Bala, ei theulu, ei bywoliaeth, a'i Methodistiaeth. Nid oedd obaith am gyfle iddo i wasanaethu yn esgobaeth Llanelwy nac yn unman o fewn cyrraedd y Bala. Ac yr oedd y cynghorwyr Methodistaidd a dramwyai'n rheolaidd drwy dy Thomas Foulkes yn pwyso ar iddo ymuno gyda hwynt. O'r diwedd, torrwyd y ddadl, ac aeth Thomas Charles i seiat y Methodistiaid yn y Bala, 2 Gorffennaf 1784. O hynny ymlaen hanes pob un o'i flynyddoedd hyd y diwedd fu teithio mynych i bregethu ac i wahanol gynulliadau ei gyfeillion newydd, yn sasiwn a chyfarfod misol.

Ar yr un pryd yr oedd ei weithgarwch yn ymledu i gyfeiriadau eang iawn. Yn ystod ei arhosiad byr yn Llanymawddwy, wrth geisio addysgu'r plant yn y Catecism, sylweddolodd ddyfnder anwybodaeth trigolion hen ac ieuanc y plwyf hwnnw a phlwyfi eraill y wlad. Yr oedd dyddiau ysgolion Griffith Jones ar ben, ac nid oedd dim yn y golwg i lenwi'r diffyg. Penderfynodd gychwyn cyfundrefn gyffelyb, ac yn fuan wedi symud i'r Bala dechreuodd weithio ar y cynllun. Magodd do o athrawon ac anfonai hwynt o ardal i ardal, chwech neu naw mis ym mhob un, i ddysgu'r trigolion i ddarllen eu Beiblau yn Gymraeg a'u hyfforddi yn egwyddorion crefydd. Talai £10 y flwyddyn i'r athrawon hyn, ac fel y cynyddai'r nifer trymhai y baich. Cydnebydd yn ddiolchgar haelioni y cymdeithasau Methodistaidd, a dywed mai drwy eu cymorth hwy y cynhaliwyd yr ysgolion. Y mae yn y ffaith hon braw amlwg iawn o'r safle a enillasai Charles ymhlith ei bobl newydd. Ond cyn hir rhoddwyd praw pellach o'u parodrwydd i'w ddilyn. Argyhoeddwyd Charles cyn hir o'r angen am gynnal yr ysgolion ar y Sul hefyd, ac o dipyn i beth, gyda llawer o amheuaeth a mesur o wrthwynebiad ar y dechrau, daeth yr ysgol Sul yn elfen bwysig ym mywyd Methodistiaeth.

Nid Charles a sylfaenodd yr ysgol Sul gyntaf, ond y mae pethau eraill pwysicach na hynny yn wir. Drwy ei allu i drefnu, drwy sefydlu cymanfaoedd holi, drwy ei ddyfalwch i ymweled â hwynt a darparu llenyddiaeth ar eu cyfer, ac efallai yn fwy na dim drwy ffrwyno'r awydd i gystadlu a'i ddwyn i'w gwasanaeth, Thomas Charles a osododd yr ysgol Sul ar sylfeini cedyrn.

Arweiniodd y profiad a enillodd gyda'i ysgolion i ddatblygiad newydd o'i weithgarwch. Yr anhawster mwyaf i ddwyn yr ysgolion ymlaen oedd prinder Beiblau a llyfrau o bob math, prinder a barai fod llawer o waith yr ysgolion yn myned yn ofer. I gyfarfod â'r angen, dechreuodd Charles ysgrifennu a chyhoeddi llyfrau. Mewn undeb â Thomas Jones, Dinbych, a than fendith y Sasiwn, cyhoeddodd Y Drysorfa Ysbrydol yn 1799. Aeth rhagddo i ysgrifennu ar lawer o destunau - Amddiffyniad i'r Methodistiaid, eu Rheolau hwy, Rheolau'r Ysgolion Sul, a llyfr i ddysgu'r ffordd i sillafu yn Gymraeg. Y ddau lyfr y bu iddynt yr hoedl hiraf oedd y Geiriadur, 1805, a'r Hyfforddwr, 1807; bu i'r Geiriadur le mawr a dylanwad eang ym mywyd a chrefydd Cymru.

Ond yr angen pennaf oedd angen am Feiblau ac am gyflawnder ohonynt am bris isel, a'r ymdrechion i sicrhau hyn a arweiniodd Charles i gylch ehangach o wasanaeth ac a enillodd iddo safle y tu allan i'w gyfundeb a'i genedl ei hun. Yr oedd y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristnogol wedi cyhoeddi deng mil o Feiblau Cymraeg yn 1799, ac wedi eu rhannu, ond drwy ddefnyddio nifer o ddichellion diniwed yn unig y llwyddwyd i gael saith gant ohonynt i'r Bala. Yn 1802 gwelodd Charles gyfle i afael yn y gwaith o gael mwy o Feiblau. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Traethodau Crefyddol, a manteisiodd ar ei ymweliad i bregethu yn Llundain, yn nechrau 1802, i fyned i gyfarfodydd y gymdeithas, a gosod angen mawr Cymru am Feiblau Cymraeg ger eu bron. Llwyddodd y tu hwnt i'w obeithion, ac yn y drafodaeth honno y ganwyd y syniad o Gymdeithas Beiblau. Un o'i gorchwylion cyntaf oedd dwyn allan argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg, a phenodwyd Charles i fod yn gyfrifol am ei ddwyn drwy'r wasg. Yn hanes ei ran yn cychwyn Cymdeithas y Beiblau y ceir y dystiolaeth gryfaf o unman, efallai, i ddeheurwydd ac i rym personoliaeth Thomas Charles. Nid ydoedd yn Ymneilltuwr, ac nid oedd ond mewn enw yn unig yn Eglwyswr; nid arddelai yr Eglwys mohono. Eto cyfrifir y dyn hwn ymhlith prif sylfaenwyr y Gymdeithas.

Ar yr un pryd, prif faes ei wasanaeth am chwarter canrif olaf ei oes oedd Methodistiaeth Galfinaidd Cymru. Daeth ar unwaith yn brif arweinydd ynddi heb neb yn gwarafun hynny iddo. Bu Daniel Rowland farw yn 1790 a William Williams, Pantycelyn, yn 1791. Ni ellid arweinydd o David Jones, Langan - llai fyth o Nathaniel, mab Daniel Rowland. Aeth Charles i'r orsedd a gadawodd fwy o'i ôl ar bopeth Methodistaidd y 19eg ganrif, ond ei bregethu, na neb arall.

Enillodd gydsyniad ei bobl i newid llawer o bethau. Er dyddiau Watford a'r Dugoedydd penodid pob blaenor neu arolygydd ar gymdeithas (seiat) gan y Corff mewn sasiwn chwarterol neu gyfarfod misol. O dan arweiniad Charles, penderfynodd y Corff roddi'r hawl i'r gymdeithas ei hun ddewis ei blaenoriaid, ond fod y Corff i gadarnhau'r dewisiad. Yr oedd hyn yn gam mawr ymlaen ar lwybr y cyfundeb i'w bresbyteriaeth ddiweddarach.

Cymerth ran amlwg mewn dau fudiad y mae ynddynt ddiddordeb i gylch llawer ehangach na'r Methodistiaid eu hunain. Un ohonynt oedd diarddeliad Peter Williams. Thomas Charles a anfonwyd gyda John Evans, y Bala, gan y Gogledd i Landeilo i ofyn i'r Deau gymryd yr achos mewn llaw, ac ofer hollol fyddai gwadu nad oedd llawer iawn a wnelai ef â'r genadwri a gludai. Gwyddai Peter Williams, a dywedodd mai llaw Charles a roes y ddyrnod olaf iddo.

Y prif esboniad ar safiad Charles yn hyn o beth yw'r ffaith ei fod ef yn fath newydd ar Fethodist. Yr oedd yn wr mwy athrawiaethol na'r pregethwyr cynnes a'i rhagflaenai. Gellid disgwyl i wr a ymboenodd gymaint gyda Hyfforddwr a Geiriadur fod felly. Ac yn y fan yma y ceir gwraidd y gwahaniaeth rhwng goddefgarwch Daniel Rowland, y pregethwr, a llymder Thomas Charles, y diwinydd.

Y mudiad arall y cymerth ran bwysig ac amlwg ynddo ydoedd y cam a gymerwyd yn 1811 i ordeinio gweinidogion a thrwy hynny droi cefn ar yr Eglwys Sefydledig. Efallai mai yr hanes hwn a deifl fwyaf o oleuni o unrhyw ddigwyddiad yn ei hanes ar ysbryd ac anianawd Charles. Bu am flynyddoedd yn wrthwynebus i'r syniad o ordeinio. Nid oes angen rhyfeddu at hyn. Yr oedd yn Eglwyswr ac yn offeiriad. Yr oedd hefyd lawer o'r gwr bonheddig ynddo. Derbyniasai addysg dda, ac yr oedd wedi cymdeithasu llawer â chrefyddwyr boneddigaidd. Yr oedd o natur lednais a choeth. Nid oedd yn rhyfedd fod llawer o bethau yn y mudiad ac yn yr ymdrech drosto a darfai ei ysbryd - huodledd brochus John Elias, penderfyniad di-ildio a digymrodedd Thomas Jones, a geiriau gwerinol a chwyrn rhai o'i bleidwyr. Gwrthododd am ddwy flynedd, a Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon yn ei ddilyn yn ffyddlon yn ei safiad. Yna trodd, ac ar gais y gymdeithasfa ymgymerth â'r gwaith o lunio ffurf gwasanaeth ordeinio; a'r ffurf honno, a luniodd ef, a arferir hyd heddiw ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd. A chofio mai o law Thomas Charles y daeth hon, syn braidd yw gweled ynddi nad oedd arddodiad dwylo i fod. Wedi gafael yn y gwaith hwn, ni throdd yn ôl. Nid oedd ganddo unrhyw gydymdeimlad â'r offeiriaid yn y Deheudir a drodd eu cefnau ar y Corff. Amddiffynnodd hawliau y rhai a ordeiniwyd, a mynnodd eu lle priodol iddynt.

Dechreuodd nerth Charles ballu yn gynnar yn 1814. Ar nos Sul 24 Gorffennaf syrthiodd mewn llewyg oddi ar gefn ei geffyl. Dihoenodd mewn llesgedd a phoenau mawr hyd 5 Hydref 1814, a chladdwyd ef ym mynwent Llanycil, 7 Hydref. Bu ei wraig farw ymhen tair wythnos, ar 24 Hydref. Gadawodd ddau fab ar ei ôl - Thomas Rice Charles, gwr gwannaidd ei iechyd, i'r hwn y daeth yr hen siop yn y Bala, a David James Charles, meddyg yn yr un dref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.