CHIDLAW, BENJAMIN WILLIAM (1811 - 1892)

Enw: Benjamin William Chidlaw
Dyddiad geni: 1811
Dyddiad marw: 1892
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn y Bala 14 Gorffennaf 1811, ei rieni'n aelodau blaenllaw yng nghapel Annibynwyr y dref honno. Ymfudodd y teulu i Unol Daleithiau America yn 1821, gan ymsefydlu yn Delaware. Treuliodd y mab dair blynedd ym mhrifysgol Miami. Trwyddedwyd ef i bregethu, Ebrill 1835, a'i ordeinio 1836 i weinyddu ar eglwys Annibynnol yn Paddy's Run, Ohio. Yn 1844 aeth yn weinidog ar eglwys Bresbyteraidd yn Cleves a'r cylch, eithr torrodd ei gysylltiad â'r eglwys a'r ardal honno er mwyn rhoddi ei holl amser i swydd newydd, sef cenhadwr cyntaf yr ' American Sunday School Union.' Gwnaeth waith cenhadol yn y gwersylloedd yn ne Ohio, lle yr addysgid milwyr yn 1861, ac, ychydig yn ddiweddarach, cafodd swydd caplan gyda'r '39th Ohio Volunteers Infantry,' eithr ni chaniataodd ei iechyd iddo gadw'r swydd yn hwy na blwyddyn.

Yn ystod tymor ei wasanaeth - 56 mlynedd - gyda'r ' Sunday School Union ' llwyddodd i sefydlu cymaint o ysgolion Sul nes y cyfrifid ef o'r flwyddyn 1855 ymlaen yn hyrwyddwr pennaf ysgolion o'r fath. Ar ei ymweliadau â Chymru bu'n pregethu ac yn efengyleiddio'n ddiwyd; adroddir i 250 o bobl ddyfod i broffesu cred yng Nghrist ar ôl iddo bregethu unwaith yn Llanuwchllyn yn 1839. Pan oedd yn anterth ei ddydd fe'i cyfrifid yn siaradwr cyhoeddus heb ei ail. Cyhoeddodd History of Paddy's Run, Yr America, Golwg ar Dalaith Ohio, Hanes Sefydliadau Cymraeg yr America, Cyfarwyddiadau i Ymfudwyr, The Story of My Life , etc.

Bu farw'n sydyn, yn Nolgellau, 14 Gorffennaf 1892, ar ddydd ei ben blwydd, a dygwyd ei gorff i Cleves, Ohio, i'w gladdu ym mynwent Berea.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.