CHURCHEY, WALTER (1747-1805), prydydd a thwrnai;
aelod o deulu o Wlad yr Haf a gartrefodd yn Aberhonddu'n gynnar yn y 17eg g. ac a fu'n flaenllaw yn y dref; g. 7 Tachwedd 1747. Yr oedd yn un o gefnogwyr cynnar Wesleaeth (Saesneg) Aberhonddu, a daeth yn gyfaill personol i John Wesley, a ohebai ag ef. Gwelir rhestr o'i weithiau yn yr ysgrif arno yn y D.N.B. Bu f. (yn y Gelli) 3 Rhagfyr 1805. Ei briod oedd Mary Bevan o'r Cleiro; cafodd chwech o blant, a bu ei ail fab, WALTER CHURCHEY, yn glerc trefol Aberhonddu o 1814 hyd 1840.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B.;
- Theophilus Jones, Hist. Brecknock.. (3ydd arg.), ii, 103.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.