Blwyddyn bwysig yn ei fywyd oedd 1852. Yn y flwyddyn honno fe'i dewiswyd yn ymddiriedolwr o dan ewyllys Syr Josiah John Guest [q.v.]; o hynny ymlaen hyd 1897 efe oedd gwir lywodraethwr gwaith haearn enwog Dowlais. Nid oedd gwaith Dowlais yn talu ar y pryd, eithr bu i Clark, gyda'i athrylith fel gweinyddwr a'i allu i ddewis cyd-swyddogion gwir gymwys, lwyddo i'w ddyrchafu i fod yn un o'r gweithydd pwysicaf yn y wlad. Bu'n cynorthwyo Syr Henry Bessemer i berffeithio'i ddull newydd o wneuthur dur, cyrchodd haearn brwd o Bilbao yn Sbaen ac o fannau newydd yng Nghymru, ac, yn ddiweddarach, er mwyn arbed costau cludo, symudodd y gwaith o Ddowlais i Gaerdydd. Yr oedd ei ddiddordeb mewn materion diwylliannol a chymdeithasol lawn cymaint â'i ddiddordeb mewn busnes a masnach. Codwyd ysbyty Dowlais ar ei gost ef; efe hefyd a fu'n gyfrifol am achosi agor ysgolion Dowlais.
Eithr ar gyfrif gwaith Clark fel hynafiaethydd y coffeir ef yn bennaf. Ysgrifennodd draethawd gwerthfawr ar gastell Caerffili pan nad oedd ond 25 oed. Yn 1843 bu'n helpu i sefydlu'r gymdeithas a adweinid wedi hynny'n ‘Royal Archaeological Institute,’ a bu cysylltiad hir rhyngddo â hi ac â'r Cambrian Archaeological Association. Oblegid ei fod yn beiriannydd nid yw'n rhyfedd i bwnc amddiffynfeydd y Canol Oesoedd dynnu ei sylw; cyhoeddodd astudiaethau manwl ar amryw gestyll — rhai Cymru yn eu plith — a chyhoeddwyd hwynt gyda'i gilydd yn 1884 o dan y teitl Mediaeval Military Architecture in England, gwaith sydd yn parhau'n bwysig. Cyhoeddodd gasgliad helaeth o siarteri yn ymwneud â sir Forgannwg — gw. yr ail arg. mewn chwe chyfrol a gyhoeddwyd yn 1910, o dan yr enw Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de Glamorgancia pertinent. Y gwaith gwerthfawr hwn ydyw sylfaen pob gwaith ymchwil a wnaethpwyd wedi hynny i hanes cynnar y sir honno; hwn hefyd oedd sylfaen gwaith arall gan Clark, sef Land of Morgan (1883). Y mae ei waith ar achau teuluoedd y sir, Limbus Patrum Morganiae et Glamorganiae…, 1886, yn parhau i gael ei ddefnyddio.
Priododd Ann, ferch Henry Lewis, Greenmeadow, Tongwynlais, 3 Ebrill 1850. Bu hi f. 6 Ebrill 1885 gan adael mab, GODFREY LEWIS CLARK, a merch. Bu G. T. Clark f. yn Nhalygarn, gerllaw Pontyclun, Ionawr 1898.
Henry John Randall, F.S.A., (1877-1964), Penybont-ar-Ogwr