CLYDOG (fl. 500?), sant a merthyr

Enw: Clydog
Rhiant: Clydwyn ap Brychan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant a merthyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

mab ydoedd i Clydwyn ap Brychan a theyrnasai dros Ewias (heddiw, gan mwyaf, yn Swydd Henffordd). Ni wyddys dim amdano ar wahân i'r hyn a ddywedir yn ' Llyfr Llandaf.' Yn ôl yr hanes yno yr oedd yn dywysog a oedd yn arfer duwioldeb, yn caru heddwch a chyflawnder, ond a gafodd ei ladd, pan oedd yn hela ar lan afon Mynwy, gan un o'i ddilynwyr a oedd yn eiddigus ohono. Yr oedd y llofrudd yn caru morwyn ifanc a ddywedasai na phriodai hi neb ond mab y brenin. Ceisiwyd fwy nag un waith, ond yn ofer, symud y corff o'r fan, a chan fod hyn yn awgrymu rhyw arfaeth uwchddaearol fe gladdwyd Clydog yn y man lle y'i lladdwyd. Dynodwyd ei fedd gan adeilad i weddïo ynddo, a daethpwyd i addoli'r tywysog megis sant; yn ddiweddarach codwyd eglwys - Clodock y dyddiau hyn - a ddaeth yn ganolfan eglwysig Ewias. Rhoddwyd i'r sefydliad diroedd a ddaeth yn amser Ithel ap Morgan (c. 750) yn eiddo esgobaeth Llandaf. Ni wyddys am gyflwyno un eglwys arall i'r sant hwn. Cedwid ei ŵyl mabsant 3 Tachwedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.