Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CNEPPYN GWERTHRYNION , pencerdd a gramadegydd o'r 13eg g. , fel y mae debycaf, er na cheir, hyd y gwyddom, ddim o'i waith yn aros. Gwelir y cyfeiriad cynharaf ato gan Wilym Ddu o Arfon (bardd a ganai yn 1322 ) yn ei awdl farwnad i Drahaearn Brydydd ( M.A. 277b 12/13), lle'r enwir y Cneppyn ymhlith nifer o brifeirdd y 13eg g. , gan honni mai i olyniaeth y ‘blaid penceirddiaid’ hyn yr oedd Trahaearn yn perthyn. Gellir casglu o hyn ei hanfod (sef Cneppyn ) o Werthryniawn (yn ‘ sir Faesyfed ’), a bod ei gerdd yn ‘ Ladin gyfiawn,’ sef yn ôl safonau rhetoreg Lladin ei gyfnod.

Mewn rhai llawysgrifau ceir yr enw Cneppyn Gwerthryniawn fel un o nifer o lysenwau ar Sypyn Cyfeiliog neu Ddafydd Bach ap Madog Wladaidd [q.v.] , ond gan fod y Dafydd hwn yn canu yn ddiweddar yn y 14eg g. , ni ddichon mai ef oedd y Cneppyn gwreiddiol (gw. I.G.E. , arg. 1925, clxvii et seq. ).

Yn Cardiff MS. 38 , sef copi o'r ‘ Pum Llyfr Kerddwriaeth ’ yn llaw Wiliam Cynwal , ac mewn copïau eraill ohonynt o'r 16eg g. , sonnir am ‘ Cnypyn Gwerthryniawn ’ (neu Werthryniawc ) fel gramadegydd , a'i enwi o flaen Dafydd Ddu Athro . Gan fod gramadeg y beirdd yn seiliedig ar y ‘ddwned’ Ladin , y mae hyn yn hawdd ei gysoni â thystiolaeth Gwilym Ddu , ac yn awgrymu bod gramadeg Cymraeg sgrifenedig yn nwylo'r penceirddiaid cyn gynhared â'r 13eg g. o leiaf (gw. G. J. Williams , Gramadegau'r Penceirddiaid , xx-xxi).

Awdur:

David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban.