CORBET, Syr RICHARD (1640 - 1683), barwnig ac aelod seneddol

Enw: Richard Corbet
Dyddiad geni: 1640
Dyddiad marw: 1683
Priod: Victoria Corbet (née Uvedale)
Rhiant: Edward Corbet
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barwnig ac aelod seneddol
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Un o deulu CORBET o LEIGHTON, Maldwyn, mab i EDWARD CORBETT (a fu farw o flaen ei dad yn 1653), ac ŵyr i Syr EDWARD CORBET, y barwnig 1af. Addysgwyd ef yng Ngholeg Christ Church, Rhydychen, 1658. Bu'n aelod seneddol dros Amwythig, 1677-1681, ac yn gadeirydd y pwyllgor ar etholiadau. Yr oedd yn gyfaill mawr i'r arglwydd (William) Russell, a chredid bod dienyddiad hwnnw (1683) wedi prysuro ei farwolaeth. Yr oedd yn aelod o'r Gymdeithas Frenhinol newydd - ond dyddiau oedd y rheini pan etholid y deuparth o'i haelodau ar dir cymdeithasol neu wleidyddol. Ei briod (1663) oedd Victoria, merch Syr William Uvedale (bu hi farw 1679); cawsant naw o blant. Bu farw 1 Awst 1683.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.