CORY (John Cory and Sons Limited)

Ceir dau deulu gwahanol o ddiwydiannwyr yn Ne Cymru a oedd yn dwyn yr un cyfenw. Y mae'r teulu hwn (John Cory and Sons Limited) i'w wahaniaethu oddi wrth deulu'r Richard Cory I a'i feibion a ffurfiodd fusnes Cory Brothers Limited.

JOHN CORY I (? - 1891), S. Julian's, gerllaw Casnewydd-ar-Wysg, pennaeth 'John Cory and Sons'

Ganwyd yn Padstow, Cernyw. Ar ôl bod yn gapten llongau daeth i Gaerdydd i fod yn frocer a pherchennog llongau yn 1872 - h.y. rai blynyddoedd wedi i Richard Cory I ddyfod i Gaerdydd o Bideford gyda'i ddau fab, John a Richard II. Gyda'i ddau fab - JOHN a JAMES HERBERT - sefydlodd fusnes ' John Cory and Sons '; pan fu ef farw yr oedd gan y cwmni 21 o agerlongau a thair llong arall yn cael eu hadeiladu iddynt.

JOHN CORY II (1855 - 1931)

Mab John Cory I; ganwyd yn Padstow, a daeth i Gaerdydd yn 17 oed o Lundain, lle y buasai'n dysgu gwaith marsiandwr a brocer llongau. Ymunodd â'i dad (John Cory I) a'i frawd Herbert ym musnes ' John Cory and Sons,' perchnogion llongau, etc. Priododd Emma Grigg, merch George Hosking Wills, Caerdydd. Bu'n byw yn Sea View House, Penarth, a Kingsland, Peterston-super-Ely. Efe oedd llywydd bwrdd cyfarwyddwyr y ' Cardiff Channel Dry Docks and Pontoon Co., Ltd. ', a'r ' Mount Stuart Dry Docks, Ltd. ', pan unwyd y ddau gwmni yn 1931. Yr oedd yn gyfarwyddwr tua 36 o gwmnïau'n ymwneud â llongau a thrafnidiaeth, yn Geidwadwr o ran gwleidyddiaeth, ac yn Wesle o ran enwad. Bu farw 26 Rhagfyr 1931, a chladdwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus CaerdyddCaerdydd. Gadawodd ddau fab - (1) JOHN HERBERT CORY (bu farw 17 Mai 1939), a (2) Charles Kingsley Cory.

CORY, Syr JAMES HERBERT (1857 - 1933), barwnig a pherchennog llongau

Ail fab John Cory I. Ganwyd yntau yn Padstow 7 Chwefror 1857. Yr oedd yn gyfarwyddwr tua 35 o gwmnïau. Bu'n aelod seneddol dros rannau o Gaerdydd, 1915-1923. Eglwyswr ydoedd ac addolai yn eglwys Tongwynlais. Rhoes gymorth ariannol i Goleg Technegol ac i ysbytai Caerdydd. Bu'n briod ddwywaith, gan adael pedwar mab ac un ferch o'r briodas gyntaf, a dwy ferch o'r ail briodas. Bu farw 2 Chwefror 1933, ac fe'i dilynwyd, fel barwnig, gan ei fab HERBERT GEORGE CORY (a fu farw 7 Mai 1935).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.