CRADOCK, RICHARD (fl. 1660-1690), pregethwr Ymneilltuol, Annibynnwr o ran sect

Enw: Richard Cradock
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Ymneilltuol, Annibynnwr o ran sect
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Cyfeirid ato yn 1669 gan awdurdodau esgobaeth Llandaf fel athro ar gyfarfod dirgel yn Newton Nottage yng nghwmni'r Bedyddiwr Lewis Thomas; awgryma hyn fod y Bedyddwyr a'r Annibynwyr wedi sicrhau, dros dro, gymrodedd gweithiadwy yn ystod dyddiau'r erlid. Ni ddaeth trwydded iddo yn 1672 o dan Ddeclarasiwn Siarl II, ond cafodd Watkin Cradock un i bregethu yn ei dŷ ei hun yn y Nottage (tebyg bod Watkin yn fab neu frawd i Richard). Bu'n henadur athrawol yn eglwys Cilfwnwr er Mawrth 1666; cadarnheir hyn gan adroddiad Henry Maurice yn 1675, a chan gofnod yn llyfr yr eglwys iddo farw ar 6 Gorffennaf 1690.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.