CYBI (fl. 550), sant

Enw: Cybi
Rhiant: Selyf ab Erbin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Yn yr achau gwneir ef yn fab Selyf ap Geraint ab Erbin. Ysgrifennwyd ei 'fuchedd' mewn dwy ffurf, yn Lladin, tua'r flwyddyn 1200; rhaid amau eu gwerth, er efallai cywir ei ddisgrifio (fel y gwneir yn y 'fuchedd') yn fab i uchelwr yng Nghernyw a oedd yn ' princeps militae ' (sef penteulu) mewn llys rhwng afonydd Tamar a Llynher - Gelliwig, efallai. Ei brif sefydliad oedd Caer Gybi, lle yr ymgartrefodd rhwng muriau amddiffynfa Rufeinig a ddymchwelasid. Y mae i'r 'clas,' sef y sefydliad mynachaidd, a gychwynnwyd ganddo, hanes hir; parhaodd yn eglwys golegol trwy'r Canol Oesoedd - yr oedd ganddi ddeuddeg prebend yn yr 16eg ganrif. Peth cymharol ddiweddar yn perthyn i lên gwerin ydyw'r traddodiad dymunol a phrydferth ynglŷn â Seiriol Wyn a Chybi Felyn yn cyfarfod unwaith bob wythnos yn Clorach, yng nghanol Môn, eithr gall fod yr ansoddair yn cael ei arfer am Gybi ers hen amser. Enwyd Llangybi yn Lleyn, Llangybi yn Sir Aberteifi, a Llangibby yn sir Fynwy, arno. Yr oedd Ffynnon Gybi yn Sir Gaernarfon yn bur bwysig; dangosid Cadair Gybi yno hefyd. Ceir dwy eglwys yng Nghernyw yn gysegredig iddo - Cuby (gerllaw Tregony) a Duloe. Disgybl iddo ydoedd CAFFO, a goffeir yn Llangaffo (Merthyr Caffo gynt) ym Môn; fe'i lladdwyd ef gan fugeiliaid yn Rhosyr (Niwbwrch). Tachwedd 5 ydyw dydd Cybi, ac weithiau 6, 7, neu 8 Tachwedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.