CYFEILIOG (neu CYFEILLIOG ?) (bu farw 927), esgob Llandaf

Enw: Cyfeiliog
Dyddiad marw: 927
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llandaf
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Dywed croniclau'r Saeson iddo gael ei ddal yn Erging pan ddaeth Daniaid i rannau gorllewinol canolbarth Lloegr - efallai fod Erging yn rhan o'i esgobaeth ar y pryd - a'i gludo i'r llongau, ond i Edward dalu'r swm o £40 yn bridwerth drosto; bernir yn awr mai yn 914 y bu hyn. Cyfeirir ato o dan yr enw ' Cimeilliauc ' yn ' Llyfr Llandaf ' ac adroddir yno iddo dderbyn naw rhodd o dir. O'r naw rhodd yr oedd pump yn diroedd yn Gwent, sef Trefynwy, Roggiet, Pool Meyrick, Bishton, a Caldicot. Brochwel ap Meurig, brenin Gwent yn adeg Asser, oedd y rhoddwr; rhoddwr arall oedd Hywel ap Rhys, brenin Glewysing (Morgannwg yn awr); y trydydd rhoddwr ydoedd Arthfael, mab Hywel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.