CYNGAR (fl. yn y 6ed ganrif), sant

Enw: Cyngar
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Gŵyr efrydwyr bucheddau'r saint heddiw am ddwy fersiwn o 'fuchedd' Cyngar Sant. Darganfuwyd gopi anghyflawn o'r hynaf o'r ddwy, sef fersiwn a gyfansoddwyd mwy na thebyg yn y 12fed ganrif, yn Wells yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar. Ychwanegwyd y fersiwn arall, sydd yn llawnach ond yn ddiweddarach o ran amser, at argraffiad printiedig 1516 o ' Vitae SS. ' John o Teignmouth. Dywedir i Gyngar Sant, wedi iddo sefydlu Congresbury yng Ngwlad yr Haf, groesi i Forgannwg, lle y glaniodd ar lannau Dawan. Ym Morgannwg sefydlodd ddwy fynachlog mewn mannau nas lleolwyd, a daeth i gyffyrddiad â'r brenin Poulentus ac â thywysog o'r enw Pebiau. Yn ôl 'buchedd' Cybi Sant, lle y dywedir fod Cybi a Chyngar yn perthyn i'w gilydd, cyd-deithiodd Cyngar gyda Chybi - yn gyntaf i Iwerddon ac wedyn i Fôn. Cyngar yw enw nawddsant eglwys Llangefni ym Môn ac eglwys yr Hôb yn Sir y Fflint. Dywed ail 'fuchedd' Cyngar Sant mai yr un oedd ef â Doccuinus Sant, ond mae'n amheus a oes rheswm digonol dros dderbyn hyn yn derfynol. Anrhydeddir Cyngar Sant hefyd yng Ngwlad yr Haf, yng Nghernyw, ac yn Llydaw. Fel canlyniad i ddryswch rhwng mwy nag un sant yn dwyn yr enw hwn, enwir 7 a 27 Tachwedd fel dydd gŵyl Cyngar Sant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.