CYNIDR, sant (fl. yn y 6ed ganrif).

Enw: Cynidr
Rhiant: Geingar ferch Brychan
Rhiant: Gwladys ferch Brychan
Rhiant: Gwynllyw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Ychydig o hanes bywyd y sant hwn sydd ar gael. Dywed y ' De Situ Brecheniauc ' (Wade-Evans, Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae, 313-5) a'r ' Cognacio Brychan ' (op. cit., 315-8) amdano mai mab oedd i Geingair, ferch Brychan, ond ni sonnir yno am enw ei dad. Ar y llaw arall, dengys y ' Generatio Sancti Egweni ' (op. cit., 319) mai mab oedd Cynidr i Wynllyw a Gwladys, ac felly yn frawd i Gadog Sant. Y tebygolrwydd yw mai Cynidr Sant yw'r Keneder y sonnir amdano ym 'muchedd' Cadog fel un o'r seintiau a gefnogai Gadog yn ei anghydfod â'r brenin Arthur. Dengys yr hanes mai yn sir Frycheiniog y gwnaeth Cynidr ei brif waith, ac yno ceir fod eglwysi Llangynidr, Aberysgir, Llanywern, Cantref, a'r Clas-ar-Wy i gyd ar y cychwyn wedi eu henwi arno. Gwelir olion traddodiad Cynidr hefyd yn Kenderchurch a Winforton yn Swydd Henffordd. Cedwir ei ŵyl fel rheol ar 8 Rhagfyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.