CYNWRIG HIR, o Edeirnion (1093).

Enw: Cynwrig Hir
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Myrddin Lloyd

Yn ' Hanes Gruffydd ap Cynan ' adroddir amdano'n dyfod i Gaer lle'r oedd Gruffydd yn garcharor Hu Iarll ers deuddeng mlynedd, gweld y tywysog mewn gefynnau, ei gario i ffwrdd tra oedd y bwrdeisiaid wrth eu bwyd, ei gadw'n ddirgel tros dro yn ei dŷ ei hun, ac yna ei ddwyn yn llechwraidd i Fôn. Os gwir yr hanes, yr oedd yn weithred dyngedfennol yn hanes Cymru yn wyneb pwysigrwydd gyrfa Gruffydd a'i ddisgynyddion ar ôl hyn. Nid oedd Arthur Jones a Syr J. E. Lloyd yn unfarn ynglŷn â hyd carchariad Gruffydd, ac felly ynglŷn â blwyddyn ymweliad Cynwrig â Chaer, ac ni roddai Syr J. E. Lloyd 'ymddiriedaeth hollol' yn yr hanes, ond y mae ' Hanes Gruffydd ap Cynan ' yn dystiolaeth gynnar.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.