DAFYDD ALAW (fl. 1550), bardd

Enw: Dafydd Alaw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Rhiannon Francis Roberts

o Fôn a raddiwyd yn Ddisgybl Ysbâs Cerdd Dafod yn ail eisteddfod Caerwys, 1568. Canodd farwnad i Lewis Môn (NLW MS 1553A ), a dichon ei fod yn ddisgybl i'r gŵr hwnnw. Moliant i rai o uchelwyr Môn, c. 1535-1570, yw ei waith bron yn gyfan gwbl: ceir peth ohono yn Llanstephan MS 123 , Llanstephan MS 125 a Llanstephan MS 133 . Cyfeirir at ei lyfr achau yn Peniarth MS 134 .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.