DAFYDD ab IEUAN (IFAN) ab OWEN (fl. 1560, bardd

Enw: Dafydd Ab Ieuan (Ifan) Ab Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

Fl. 1560 yn ôl NLW MS 606E ). Y mae ei waith yn ei gysylltu â Harlech ac yn arbennig â Thrawsfynydd. Cadwyd cywyddau ac englyn o'i eiddo yn Cwrtmawr MS 238B , Cwrtmawr MS 244B , NLW MS 643B , NLW MS 666C , NLW MS 3487E , a B.M. MSS. 14966, 14985; yn eu mysg y mae englyn i dre Harlech a 'cywydd ymliwiaeth a'r Byd o waith Gwr a werthodd ei dir,' sef yr Hendrefawr, Trawsfynydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.