Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAFYDD LLWYD ap LLYWELYN ap GRUFFUDD , o Fathafarn ( c. 1420 - c. 1500 ). Ef oedd awdur tua 50 o'r 200 o gywyddau brud ei gyfnod sydd ar gael, a dyna ei enwogrwydd pennaf .

Fe'i hystyrid hefyd yn ei ddydd yn ddehonglwr mawr o'r hen lyfrau brud . Ym mhlwyf Llanwrin yr oedd ei Blas , a dengys ei achau ei hanfod o deulu bonheddig yn y fro honno, a'i wraig, Margred , yr un modd. Goroesodd ef ei blant. Ieuan , Maredudd , a Llywelyn oedd enwau tri o'i feibion, a cheir sôn am ferch o'r un enw a'i mam ( Powys Fadog , vi, 37), ac am feibion eraill efallai. Heblaw'r cywyddau brud, ceir canu ymryson rhyngddo a Llywelyn ap Gutun ac eraill. Fel bardd yn canu ar ei fwyd ei hun , ychydig o gywyddau gofyn, moliant, a marwnad a ganodd, ond dewisodd wrthrychau ei foli a'i farwnadau o blith gwŷr a wir edmygai, a hwy gan amlaf yn enwogion Cymru yn ei ddydd, ac y mae ganddo farwnadau gwych. Canodd gywydd i Dydecho sy'n werthfawr fel yr unig ‘fuchedd’ sydd ar gael i'r sant hwnnw, a chanodd gywydd natur hyfryd i afon Dyfi . Ceir hefyd ddarnau o ganu natur sylwgar a champus ymhlith ei weithiau eraill. Ei waith cynharaf y gellir ei ddyddio yw ei farwnad i Syr Gruffudd Fychan (bu f. 1447 ) , a bu fyw i ganu i Arthur fab Harri VII , a aned yn 1486 , ac os gellir derbyn y dystiolaeth ym Mont. Coll. , xxxi, 195, yr oedd yn canu yn 1497 . Ni cheir ganddo farwnad i Arthur , a fu farw yn 1501 , nac i'w brif arwr, Harri VII (bu f. 1509 ) . Rhydd beirdd ei oes glod i Dafydd Llwyd fel milwr , heliwr , fel ‘ ysgwier ’ (anrhydedd a gafodd wedi Maes Bosworth ), fel ‘eos cerdd,’ ac fel ‘cyw Myrddin ’ (h.y. daroganwr ).

Mydryddir llawer o ddefnydd traddodiadol yn ei gywyddau brud, ond yn aml iawn i bwrpas cyfoes, sef propaganda gwleidyddol . Gall ganmol Dafydd ap Ieuan ap Einion , a'r un modd ei elyn, William Herbert : ond y mae'n gwbl gyson yn y bôn, am na faliai fawr am yr ymrafael ‘rhosynnaidd’ Seisnig , ond yn unig fel y gallai roi ei gyfle i waredwr cenedl y Cymry . Dyhead am undod a gwaredigaeth ei genedl, a dig at y Saeson am ei difreinio, oedd prif gymelliadau ei frudio a'i awen. Heblaw ei gywyddau, ni cheir o'i waith yn aros ond un awdl wych i Ddewi (sydd hithau yn ganu brud), ac ychydig englynion. Ceir traddodiad i Harri Tudur fwrw noson gyda Dafydd Llwyd ym Mathafarn ar ei daith i Bosworth , ac i wraig y bardd ei annog (fel petasai angen!) i ddarogan llwyddiant iddo.

Ffynonellau:

  • Traethawd M.A. anghyhoeddedig gan Leslie Richards ;
  • Bulletin of the Board of Celtic Studies , iv, 310;
  • Collections Historical and Archaeological relating to Montgomeryshire , xxx, 195;
  • Heraldic Visitations of Wales and Part of the Marches , 1846 , i, 296;
  • H. T. Evans , Wales and the Wars of the Roses , 1915 ;
  • Garmon Jones , ‘Welsh Nationalism and Henry Tudor,’ yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1917-8 .

Awdur:

David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54