Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAFYDD ap SIENCYN (fl. tua 1450), bardd, herwr Lancastriaidd, a pherthynas i Owain Tudur. Trigai am flynyddoedd yng Nghoed Carreg y Gwalch, ger Llanrwst, a brwydro'n fynych yn erbyn Hywel ab Ifan ap Rhys Gethin, herwr arall. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau cadwodd Ieuan ap Rhobert ap Maredudd ac yntau dir gwyllt Nantconwy yn erbyn y brenin hyd 1468. Anrheithiodd ef ac amryw gapteiniaid ym myddin Lancaster rannau o sir Ddinbych. Canodd Ieuan ap Gruffydd Leiaf [q.v.] a Tudur Penllyn [q.v.] gywyddau moliant iddo. Cynnwys ei farddoniaeth gywydd ateb i Dudur Penllyn a chywyddau moliant i Forus Wyn o Foelyrch a Roger Kynaston.

Llyfryddiaeth:

  • Sir John Wynn, Hist. Gwydir Family, (3ydd arg.), 85-6;
  • G. J. Williams, Hanes Plwyf Ffestiniog, 53-4;
  • Jones a Lewis, Mynegai.

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni

Atodiadau a chywiriadau:

DAFYDD ap SIANCYN (SIENCYN) ap DAFYDD ap y CRACH (fl. tua chanol y 15ed g.; Bywg., 91), cefnogwr plaid y Lancastriaid, a bardd. Disgynnai, ar ochr ei dad, o Marchudd (Pen. MS. 127(57); Powys Fadog, vi, 221), ac, ar ochr ei fam, o'r tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Pen. MSS. 127(105), 129(128,130); Dwnn, ii, 102, 132). Margred, merch Rhys Gethin, un o gefnogwyr Owain Glyn Dŵr (gw. Lloyd, Owen Glendower, 66), oedd ei fam. Adroddir hanes ei gampau yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau gan Syr John Wynn yn ei Hist. of the Gwydir Family. O'i glydfan ar Gareg-y-Gwalch (ger Llanrwst) cadwodd filwyr plaid Efrog allan o gwmwd Nanconwy hyd 1468, a gwnaeth lawer ymgyrch i'r wlad oddi amgylch. Cenir ei glodydd gan Ieuan ap Gruffydd Leiaf (Bywg., 386a) a Thudur Penllyn (Bywg., 926b). Er fod Tudur, yn ei gywydd iddo, yn canmol medr Dafydd fel bardd, nid erys ond tri englyn o'i waith. Cyferchir Tudur Penllyn yn un o'r rhain. Ceir y ddau arall, a gyfansoddodd ar ei wely angau, yn llaw SyrThomas Wiliems ar dudalen o Cardiff MS. 7. Ychwanega Thomas Wiliems fod Dafydd, adeg ei farw, yn gwnstabl castell Conwy, a'i fod wedi gorchfygu a lladd ei ragflaenydd yn y swydd. Awgrymir yn yr englynion i Ddafydd farw fel canlyniad i dri chlwyf a dderbyniasai mewn brwydr. Priodolir iddo ddau gywydd yn cyfarch Roger Kynaston a Morys Wyn o Foelyrch, ond amheus yw ei awduraeth o'r rhain, oherwydd ymddengys mai i gyfnod diweddarach y perthynai'r personau hynny.

Awdur:

Thomas Roberts, M.A., (1885-1960) Bangor