DAFYDD BENFRAS (fl. 1230-60), bardd

Enw: Dafydd Benfras
Rhiant: Llywarch ap Llywelyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Enw ei dad oedd Llywarch, a Môn oedd ei gartref. Canodd fawl i Lywelyn ab Iorwerth, a marwnad iddo (1240). Canodd farwnadau hefyd i Ruffudd ap Llywelyn (1244) a Dafydd ap Llywelyn (1246). Yn fuan wedi i Lywelyn ap Gruffudd gychwyn ar ei ymgyrchoedd yn erbyn ei frawd Owain yn 1255 ac yn erbyn Saeson y Berfeddwlad yn 1256, cawn Ddafydd Benfras yn canu iddo yntau, a cheir cyfeiriadau yn ei awdlau at rai o fuddugoliaethau cynnar Llywelyn, megis ei gyrch i Geredigion yn 1256, ac i Gemais yn Nyfed ac i Forgannwg yn 1257. Dywaid y bardd ei fod yn bencerdd i Lywelyn. Ceir un gerdd o'i waith i Ruffudd ab Ednyfed (Fychan?). Canwyd marwnad i Ddafydd Benfras gan Fleddyn Fardd, ac yn ôl honno ei ladd a gafodd, a hynny yn y Deheubarth, a'i gladdu yn Llangadog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.