DAFYDD COWPER (GOWPER) (fl. c. 1500), bardd,
‘o Wregsam,’ Cadwyd ei waith yn Pen. MSS. 76, 312, Llanst. MS. 118, Cardiff MSS. 7, 49, B.M. Add. MS. 14997, a N.L.W. MS. 728. Yn eu plith y mae cywydd ‘a barodd sion pilstwn hen [o Blas ym Mers] i wneuthur ir abad sion [o Lanegwestl],’ ac englyn i glochdy Wrecsam (1507).
Awdur:
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth