Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAFYDD DDU ATHRO o HIRADDUG (cyn 1400), gŵr y cysylltir ei enw â'r gramadeg neu'r ‘llyfr cerddwriaeth’ cyntaf sydd gennym, hynny yw, llyfr sy'n trafod celfyddyd cerdd dafod, ac a gynnwys hefyd dalfyriad Cymraeg o'r gramadeg Lladin a ddefnyddid yn ysgolion yr Oesoedd Canol. Ni wyddom odid ddim amdano, ond gan fod Moel Hiraddug yn enw ar fryn yn ymyl Rhuddlan, efallai fod Syr Thomas Williams yn iawn pan ddywed, yn Llsgr. Mostyn 110, mai gŵr ‘O Degeingyl’ ydoedd. Myn y Dr. John Davies o Fallwyd yn Llsgr. Peniarth 49 ei fod yn ‘archdeacon of Diserth,’ a chan ei fod yn cael ei alw'n ‘athro’, a'r gair hwnnw (fel y dywedir yn y llyfr cerddwriaeth) weithiau'n golygu math arbennig o glerigwr, efallai fod y Dr. Davies yn cofnodi rhyw draddodiad a glywsai yn ei fachgendod yng nghyffiniau dyffryn Clwyd. Yn y 18fed g., mynnid fod ei feddfaen yn eglwys Tremeirchion, ac arno arysgrif yn cynnwys yr enw David F'Korel, ond y mae hynny'n drwyadl ansicr. Ffynnai traddodiad amdano fel gŵr hyddysg ac fel dewin, a mynnai'r enwog Dr. John Dee [q.v.] yn 1582 mai ef oedd Roger Bacon.

Yr oedd ysgolheigion yr 16eg g. yn priodoli'r ‘llyfr cerddwriaeth’ iddo ef ac i Einion Offeiriad [q.v.]. Blodeuai Einion tua dechrau'r 14eg g., ac felly awgrymir weithiau mai ychwanegu at lyfr Einion a wnaeth Dafydd Ddu. Ni sonnir am y ddau yn y copïau cynharaf ond fel gwŷr a luniodd dri mesur — tri chopi yn mynnu mai gwaith Einion oeddynt, a'r trydydd (sef yr un a geir yn Llsgr. Peniarth 20, a ysgrifennwyd c. 1400, neu efallai cyn hynny) yn dywedyd mai Dafydd Ddu Athro a'u dychmygodd. Priodolir cywyddau iddo hefyd. Ond efallai mai'r peth mwyaf diddorol a gysylltir â'r enw ydyw'r cyfieithiad Cymraeg o ‘Wasanaeth Mair,’ a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology. Ni chyfeirir ato yn y copïau cynharaf, ond dywed y Dr. John Davies yn 1631 mai ei waith ef ydyw ‘hyd y mae pawb yn tybieid.’ Ond nid oes neb hyd yn hyn wedi datrys y broblem sydd ynglŷn â'r cyfieithiad hwn.

Llyfryddiaeth:

  • T. Pennant, Tours, 1883, ii, 134;
  • Edward Jones, Musical Relicks. 1808, 16;
  • Arch. Camb., 1897, iii;
  • G. J. Williams, Gramadegau'r Penceirddiaid, 1934, xiii-xlii;
  • G. J. Williams, Tradd. Llen. Morgannwg, 1948, 14-5.

Awdur:

Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd