DAFYDD EMLYN (neu DAFYDD WILLIAM PRYS) (fl. 1603-22), prydydd ac, yn ôl Moses Williams, offeiriad.
[Gweler hefyd: Moses Williams.] Y mae'r ffugenw Emlyn yn awgrymu ei fod yn hanu o gyffiniau Teifi. Canodd yn y mesurau caeth i deuluoedd yng Nghemais, megis Henllys (1603), Llwyn Gwair, Tre Wern (1614) a Phen-y-benglog (1618, 1622), yn Nhrum Saran, ac ym Margam. Gellir gweld peth o'i waith yn ei law ei hun yn Llanst. MS. 38 a B.M. MS. 48.
Llyfryddiaeth:
- Llanst. MSS. 38, 57, 133, 134;
- N.L.W. MS. 6495, 33;
- B.M. MSS. 45 (101b), 48 (203);
- Merthyr Tydfil MS. I (224).
Awdur:
Dr Geraint Bowen, M.A., Rhiwabon