DAFYDD FYNGLWYD (neu DAFYDD ap SIANCYN FYNGLWYD) (fl. c. 1500-50), bardd

Enw: Dafydd Fynglwyd
Rhiant: Siancyn Fynglwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Mab i fardd, a brodor, y mae'n debyg, o Ddeheubarth Cymru. Ni wyddys dim am ei fywyd, ond cedwir peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Yn ei phlith ceir englynion moliant i blas Gruffudd Dwn o Ystrad Merthyr (Llanstephan MS 40 (60)), cywydd i Syr Harri ap Syr Thomas Johns o Abermarlais (Llanstephan MS 30 (444)), a chywydd i Syr John Perrot o Sir Benfro (Llanstephan MS 30 (447)).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.