Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAFYDD GAM (bu f. 1415), milwr Cymreig, mab Llywelyn ap Hywel Fychan, tir-feddiannwr ym Mrycheiniog; yr oedd y tad o dylwyth Einon Sais, ac yn byw yng nghastell Penpont ar afon Wysg. Golyga'r llysenw fod ganddo lygad croes neu iddo golli un llygad. Dywed traddodiad i Ddafydd ffoi o'i fro enedigol ar ôl lladd ei berthynas Richard o Slwch, yn stryd fawr Aberhonddu. Fe'i cawn ef gyntaf, yn Ebrill 1400, yn ysgwier i'r brenin ac yn derbyn tâl o ddeugain marc yn y flwyddyn (Cal. Close Rolls, 79). Gan fod y brenin Harri eisoes, oblegid ei briodas â Mary Bohun, ag arglwyddiaeth Brycheiniog yn ei feddiant, y mae'n debyg nad oedd y gyfathrach rhwng Dafydd ag ef yn un newydd; gwyddys i Ddafydd barhau yn bleidiwr teyrngar i blaid y Lancastriaid hyd ei farw. Ym mis Tachwedd 1401 fe'i gwobrwywyd o gronfa tir a gymerwyd oddi ar rai gwrthryfelwyr (Cal. Pat. Rolls, 11); dywed yr hanesydd Ysgotaidd, Walter Bower, iddo chwarae'i ran yn y fuddugoliaeth ar Owain Glyn Dŵr ym Mhwll Melyn, gerllaw Caerbuga, 5 Mai 1405 (Scotichronicon, ed. W. Goodall, 1759, ii, 452). Y mae'r dyddiad hwn yn peri bod rhaid amau cywirdeb y stori wybyddus am ei ymosodiad ar Glyn Dŵr yn y senedd a gyfarfu ym Machynlleth yn 1404; rhaid amau'r stori ar gyfrifon eraill hefyd a chofio hefyd na ddywedwyd mo'r stori hyd amser Robert Vaughan, Hengwrt (bu f. 1667). Y mae'n gwbl sicr i Ddafydd syrthio i ddwylo Glyn Dŵr, ond yn llawer mwy diweddar na hyn; ym mis Mehefin 1412, pan oedd y gwrthryfel ar fin diweddu, y rhoddwyd awdurdod i senesgal a derbynnydd (‘receiver’) Aberhonddu, a thad y carcharor yn caniatáu, i drin gyda Glyn Dŵr fater pridwerth ‘David Gamm,’ deiliad yn arglwyddiaeth Brycheiniog (Cal. Pat. Rolls, 406). Cafodd y carcharor ei ryddhau. Yn 1415 aeth Dafydd, gyda'i feistr y brenin, i Ffrainc, a bu farw ar faes brwydr Agincourt. Ymgasglodd ystorïau ynglŷn a diwedd oes yr ymladdwr grymus hwn; er enghraifft, dywedwyd iddo gael ei wneud yn farchog y dydd y collodd ei fywyd. Canwyd ei glodydd yn hir gan ei ddisgynyddion, a oedd wŷr o ddylanwad; am ddwy ganrif a hanner bu tylwyth Games yn wŷr pwysig ym Mrycheiniog — yn Aberbrân, Newton (gerllaw Aberhonddu), Tregaer, Buckland, a Phenderyn — hyd nes i linach y gwrywod ddarfod o'r tir. Yr uchel-siryf diwethaf o'r enw oedd Hoo Games (1657). Trwy i'w ferch Gwladus briodi Syr William ap Thomas o Raglan daeth Dafydd yn gyndad i'r Herbertiaid i gyd.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • J. E. Lloyd, Owen Glendower, 43, 142, 148;
  • Gwaith Lewis Glyn Cothi, 1-15;
  • Dwnn, i, 56-7.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

DAFYDD GAM (Bywg., 93a). Darllener DWNN i (nid ii) yn y llyfryddiaeth.