DAFYDD GOCH BRYDYDD o FUALLT, bardd o ardal Llanfair-ym-Muallt y mae'n debyg, ac yn byw tua diwedd yr 16eg ganrif

Enw: Dafydd Goch Brydydd O Fuallt
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

O'r cerddi a gadwyd hyd heddiw ceir rhai i Syr Sion Salbri (NLW MS 6495D a NLW MS 6496C ), Syr Sion Wyn o Wydir (Cardiff MS. 83), a Gruffydd Fychan o Gors y Gedol (Llanstephan MS 118 ). Y mae'n bosibl, hefyd, mai'r un bardd yw ef a'r ' Dafydd Goch Brydydd ' y ceir ei farddoniaeth yn y llawysgrifau canlynol: Llanstephan MS 38 , Llanstephan MS 49 , Llanstephan MS 118 , Llanstephan MS 125 , Llanstephan MS 133 , Llanstephan MS 134 , Merthyr Tydfil MS., a Mostyn 145.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.