DAFYDD LLWYD MATHAU, MATHE, neu MATHEW (fl. 1601-29), prydydd a chlerwr;
hanoedd, yn ôl y Prifathro J. H. Davies, o Gilpyll, Llangeitho. Priodolir iddo gerddi sydd yn moli teuluoedd Morfa Mawr, sir Fôn (1601), Llewenni, sir Ddinbych (1602), Mawnseliaid Margam, Poweliaid Llan Dw, Phylipiaid Gelli'r-fid, Llandyfodwg, ym Morgannwg; ac, ym Mhenfro, Henllys (1603, 1606, 1611), Tre Wern, Pont Gynon (1615), Pen-y-benglog (1629), a Thomas ap Risiart o Farlas. Lluniodd gywyddau serch ac yn 1611 ‘Awdl or pedwar messur ar higain a rhagor o fessurau o ddyfaliaeth ir Awdwr.’ Mae un cywydd yn ei law ei hun yn Llanst. MS. 38.
Llyfryddiaeth:
- Llanst. MSS. 38, 47, 118, 133, 134;
- Cardiff MS. 16 (339);
- Merthyr Tydfil MS. I, 219. 222, 334;
- Aberdare MS. I, 856;
- N.L.W. MS. 6495 (56-7);
- J. Morris-Jones, Cerdd Dafod, 366-7;
- G. J. Williams, Tradd. Llen. Morgannwg, 125, Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad, 102.
Awdur:
Dr Geraint Bowen, M.A., Rhiwabon