DAFYDD PENNANT (c. diwedd yr 16eg g.), bardd.
Ceir dau gywydd o'i eiddo yn y llawysgrifau, sef ‘Cywydd Moliant William o'r Penrhyn’ a ‘Cywydd Serch neu Wyth Camp Ymadrodd.’
Llyfryddiaeth:
- N.L.W. MS. 1553 (271);
- Pen. MS. 189 (121);
- Llanst. MS. 124 (638);
- B.M. Add. MS. 31055 (91b);
- Mostyn MS. 148 (532);
- Cwrtmawr MS. 11 (403);
- Cymru (O.J.), 421;
- Em. W., 395;
- J.T.J., ii, 379;
- William Owen Pughe, Cambr. Biog., 83;
- Enw. F., 1870, 175;
- Blackwell
Awdur:
Miss Nansi Ceridwen Jones, Aberystwyth