DAFYDD, ROBERT (1747 - 1834), 'Robert Dafydd, Brynengan,' pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a gwehydd

Enw: Robert Dafydd
Dyddiad geni: 1747
Dyddiad marw: 1834
Rhiant: Dafydd Prichard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a gwehydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Nghwmbychan, Nanmor, yn fab i Ddafydd Prichard, gwehydd. Tua'r 21 oed argyhoeddwyd ef dan bregeth Siôn Robert Lewis yr almanaciwr, ac aeth i'r ysgol gylchynnol a gedwid gan Robert Jones (Rhoslan) ym Meddgelert. Symudodd i weithio ym mhlwyf Llangybi; priododd, ac aeth i fyw yn Nhyddyn Ruffydd. Yr oedd yn un o dystion gweithred gyntaf (1772) capel Brynengan, canolfan Methodistiaeth Eifionydd, a dechreuodd bregethu yn 1773. Bu farw 17 Ebrill 1834 yn nhŷ-capel Brynengan, lle'r oedd un o'i feibion yn byw. Yr oedd yn gawr o ddyn o ran ei gorff, ac yn hynod iawn am blaendra a gerwindeb ei ddywediadau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.