DAFYDD TREFOR, Syr, neu David ap Hoell ab Ieuan ab Iorwerth (bu farw 1528?), offeiriad a bardd

Enw: Dafydd Trefor
Dyddiad marw: 1528?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd ym mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, medd John Jones ('Myrddin Fardd') yn Cwrtmawr MS 561C ; yn ei 'Cywydd i ofyn Geifr' sonia am ei 'ewythr,' Morgan ap Hywel, Llanddeiniolen. Ceir crynodeb, gan Irene George (Lloyd-Williams), yn Transactions of the Anglesey Antiquarian Society, 1934, o'r hyn a gasglesid ganddi hyd y flwyddyn honno am hanes y bardd. Mewn rhestr o glerigwyr esgobaeth Bangor yn 1504 dywedir fod Syr Dafydd Trefor yn rheithor Llanygrad, sef Llaneugrad-cum-Llanallgo, sir Fôn, a'i fod yn ganon. Dyma a ddywed ef amdano'i hun mewn gweithred gyfreithiol a arwyddwyd ganddo yn 1524 pan oedd yn trosglwyddo ' Tyddyn Hwfa ' yn ymyl eglwys Llangeinwen i Owen Holland ac eraill: 'Ego dominus david Trevor clericus alias dictus dominus david ap hoell ap Ieuan ap Iorwerth Rector ecclesic pariochialis de llanallgo in comitatu anglesega' (N.L.W. Carreglwyd Document 1824). Bu iddo ran mewn cyngaws cyfreithiol yn 1513 (Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club, 1927. Supp.). Y mae marwnad iddo gan Ieuan ap Madoc a chan fod y marwnadwr yn cyfeirio at golli dau fardd arall tua'r un adeg - sef Tudur Aled (bu farw 1526) a Lewis Môn (bu farw 1527) - tybir i Syr Dafydd yntau farw yn 1527 neu yn gynnar yn 1528. Dywed Edward Lhuyd mai yn Llanallgo y claddwyd ef - 'a rhai or plwy a dhangossant i vedh.'

Canodd wyth o gywyddau 'gofyn' ('i ofyn telyn a gordderch ' ydyw'r mwyaf adnabyddus o'r rhain), pedwar cywydd 'canmol' (yn eu plith un i ' Deiniol Bangor'), tri chywydd 'duwiol,' tri chywydd 'marwnad' (un ohonynt i'r brenin Harri VII), un cywydd yn disgrifio ' Ysgraff Porthaethwy,' a dau gywydd 'ateb'; argreffir 16 o'r cywyddau yn Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club, 1935.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.