DAFYDD y COED (fl. 1380), un o'r Gogynfeirdd diweddar.
Cadwyd pedair awdl sylweddol o'i waith a mân bethau o natur dychan yn ‘Llyfr Coch Hergest.’ Canodd i [Rydderch] ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron (fl. 1386-97), Hopcyn ap Thomas o Ynys Dawe (fl. 1360-90), a Gruffudd ap Llywelyn o Uwch Aeron. Cadarnheir amcan Moses Williams, yn ei Repertorium Poeticum, mai tua 1380 y blodeuai. Gŵr o Ddeheubarth ydoedd fel y dengys yr awdlau uchod a'r mân ddarnau, sy'n cynnwys awdl warth i Raeadr Gwy. Mewn darn ddychan dienw iddo yn y ‘Llyfr Coch’ (col. 1351) enwir Llanymddyfri.
Llyfryddiaeth:
- Moses Williams, Poematum Wallicorum;
- J. G. Evans, Poetry in R.B.H.;
- J. Lloyd-Jones, Geirfa.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth