DANIEL, JOHN (1755? - 1823), argraffydd yng Nghaerfyrddin

Enw: John Daniel
Dyddiad geni: 1755?
Dyddiad marw: 1823
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Mab ffermwr a oedd yn byw yn rhywle yng ngwaelod Sir Gaerfyrddin. Wedi gorffen ei brentisiaeth saith mlynedd gyda John Ross yng Nghaerfyrddin, aeth i Lundain lle y bu yng ngwasanaeth argraffwyr y brenin. Priododd yn Llundain, dychwelodd i Gaerfyrddin, a sefydlu ei fusnes ei hun yno yn 1784. Argraffodd lu o lyfrau a daeth i gael ei ystyried gyda'r goreuon yng Nghymru yn ei gyfnod; barna Ifano Jones (History of Printing and Printers in Wales) mai ef oedd y gorau i gyd, cyn i William Rees, Llanymddyfri, a William Spurrell, Caerfyrddin, ddyfod i'r maes. Yn y blynyddoedd 1791, 1793, a 1794 ceir Daniel a'i hen feistr, John Ross, yn cyduno i argraffu rhai llyfrau, eithr heb fod yn bartneriaid. Pan oedd John Ross yn argraffu trydydd argraffiad ' Beibl Peter Williams ' (pedwarplyg) yn 1796, argraffodd Daniel 4,000 copi o'r Beibl yn Gymraeg (wythplyg). Efe oedd y cyntaf yng Nghymru i argraffu nodau cerddorol ('Yr Hen Nodiant'), sef yn 1797, pan argraffodd Cyfaill mewn Llogell , gwaith John Williams ('Siôn Singer'). Efe hefyd oedd argraffydd The Carmarthen Journal ar gychwyn gyrfa'r newyddiadur hwnnw; dyddiad y rhifyn cyntaf oedd 3 Mawrth 1810. Ym mis Hydref 1800 cawsai ryddfreiniad bwrdeisdref Caerfyrddin. Bu farw 10 Ionawr 1823, a chladdwyd ef ym mynwent Llangunnor; claddesid ei wraig, Ann, yn yr un fynwent ychydig yn gynt, sef ar 2 Ebrill 1822.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.