DAVIES, CADWALADR (1704 -?), bardd, baledwr, a chasglwr cerddi

Enw: Cadwaladr Davies
Dyddiad geni: 1704
Rhiant: Lowry Thomas (née Cadwaladr)
Rhiant: Dafydd Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, baledwr, a chasglwr cerddi
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Richards

' Piser Sioned ' (Bangor MS. 3212 (564)); ganwyd yn Llanycil, mab Dafydd Thomas a Lowry Cadwaladr. Athro ysgol yn ymyl y Ddwyryd ger Corwen, ac yn Nhre'rddol (hyn yn 1740). Casglwyd y ' Piser ' o gwmpas y blynyddoedd 1733-45; cerddi a charolau plygain yw'r corffmawr, ffrwyth canu beirdd Penllyn ac Edeirnion, gwlad Cerrig-y-drudion, a rhannau uchaf Hiraethog. Heblaw'r cerddi, ymhoffai Cadwaladr Davies mewn sêr-ddewiniaeth, dehongli tywydd a breuddwydion, a dangos rhinweddau cysegredig dyddiau-gŵylion; yr oedd yn dipyn o ddoctor dynion ac anifeiliaid yn ogystal. Talai rent am dŷ a thyddyn i John Humphreys o'r Maerdy ger Gwyddelwern o 1729 i 1739; rhybudd i ymadael yn 1743. Amser ei farw'n ansicr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.