DAVIES, EVAN CYNFFIG (1843 - 1908), athro, awdur, a cherddor

Enw: Evan Cynffig Davies
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1908
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro, awdur, a cherddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd ym Mynydd Cynffig, Morgannwg. Dechreuodd ddysgu cerddoriaeth yn blentyn; yn 15 oed, cadwai ddosbarth sol-ffa yng Nghapel Elim, Mynydd Cynffig, ac yr oedd ganddo yr un pryd gôr o 100 o aelodau. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Aberhonddu, ac aeth i Brifysgol Glasgow, ond rhwystrodd afiechyd iddo raddio yno. Yn ddiweddarach graddiodd (trwy arholiadau allanol) yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.

Yn 1869 ordeiniwyd ef yn weinidog yr Annibynwyr yng Nghaergybi. Symudodd i Lannerchymedd yn 1871, ac i Borthaethwy yn 1875, yn weinidog ar eglwysi'r Borth a Llanfair P.G. Yn fuan wedi hyn agorodd ysgol ramadeg yn Westbury Mount, Porthaethwy, a pharatôdd lawer o efrydwyr ar gyfer y weinidogaeth a'r brifysgol.

Ysgrifennodd Cofiant y Parch. William Griffith, Llawlyfr ar Uwch Feirniadaeth, Esboniad ar Efengyl Marc, a llawer o ysgrifau i'r Cerddor ar gerddoriaeth a chaniadaeth. Pasiodd holl arholiadau Coleg y Tonic Sol-ffa, a chyfieithodd i'r Gymraeg y gwerslyfrau canlynol o waith John Curwen - Gramadeg Cerddoriaeth I; Yr Arweinydd Cerddorol I, II, a III; Y Wyddor Gerddorol: Elfennol I,… Ganolraddol II; Dadansoddiant a Chynghanedd. Yn 1892 penodwyd ef yn aelod o Gyngor y Coleg Sol-ffa, a pharhaodd yn aelod tra bu byw. Gwasanaethodd fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu.

Bu farw 6 Medi 1908 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llandysilio, Porthaethwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.