DAVIS, DAVID ('Dafis Castellhywel'; 1745-1827), gweinidog Ariaidd, bardd, ac ysgolfeistr

Enw: David Davis
Ffugenw: Dafis Castellhywel
Dyddiad geni: 1745
Dyddiad marw: 1827
Priod: Anne Davies (née Evans)
Plentyn: David Davies
Plentyn: Timothy Davis
Rhiant: Timothy Jacob
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Ariaidd, bardd, ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd yn Goitreisaf, Betws Bledrws, Sir Aberteifi, 14 Chwefror 1745, mab Timothy Jacob, ac fe'i derbyniwyd yn aelod yn y Cilgwyn 'yn y 18fed flwydd o'i oedran yn y flwyddyn 1763.' Fe'i haddysgwyd dan David Jones (Llanybyther), T. Lloyd (Llangeler), Joshua Thomas, yn Ysgol y Coleg, a Choleg Caerfyrddin (1763-7), a bu'n athro cynorthwyol yn Ysgol y Coleg am ysbaid. Tua diwedd 1768 daeth yn gydweinidog â David Lloyd yn Llwynrhydowen, Ciliau Aeron, Alltyplaca, Penrhiw, a Mydroilyn, ac yn ddiweddarach yn weinidog hefyd ym Mwlchyfadfa, gan fyw ym Mhlasbach, Ciliau Aeron, a phriodi Anne Evans y Foelallt, ŵyres Sgwïer Davies, Plasbach. Tua 1782 symudodd i fyw i Gastellhywel, Dyffryn Cletwr, ac fe'i hadwaenid o hyn allan fel 'Dafis Castellhywel.' Bu'n cadw ysgol am dros 30 mlynedd, ac iddo glod fel athro drwy Gymru gyfan; ordeinid offeiriaid o'i ysgol am flynyddoedd. Ceir enwau rhyw 111 o'i hen ddisgyblion fel tanysgrifwyr i Telyn Dewi. Cyfathrachai â'r Dr. Richard Price, Edward Williams ('Iolo Morganwg'), Thomas Roberts, Llwyn'rhudol, 'Glanygors,' Thomas Evans ('Thomas Glyn Cothi'); a throes lu o wŷr ei ardal yn bleidwyr y Chwyldro Ffrengig. Yn 1801-2 bu anghydfod a rhwyg yn ei eglwysi, a chododd y blaid flaengar gapeli Undodaidd Pantydefaid a Capel-y-groes. Ymddiswyddodd 16 Ionawr 1820 wedi gweinidogaethu 52 o flynyddoedd. Cyhoeddodd Bywyd Duw yn Enaid Dyn, cyfieithiad o lyfr Henry Scougal, The Life of God in the Soul of Man, 1779, cyfieithiad o fyfyrdod ar einioes ac angau o waith Thomas Gray, 1789, Cri Carcharor dan farn Marwolaeth, 1792, ac yn 1824 cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau barddonol dan yr enw Telyn Dewi. Bu farw 3 Gorffennaf 1827 a chladdwyd ym mynwent eglwys Llanwenog.

DAVID DAVIS (1778 - 1846), gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr

Mab hynaf 'Dafis Castellhywel'. Wedi ei addysgu gartref ac yng Ngholeg Caerfyrddin (1796-1800), ymsefydlodd yng Nghastell Nedd fel gweinidog cyntaf y gynulleidfa Undodaidd, gan agor ysgol yn y dref. Daeth dan ddylanwad Dr. Priestley, a sefydlodd Gymdeithas Undodaidd Deheudir Cymru yn 1802 er rhoi ohono y clod i Edward Williams ('Iolo Morganwg') (Monthly Repository, 1811, 189). Wedi rhyw 24 blynedd fel gweinidog ac ysgolfeistr galluog a dysgedig collodd ei iechyd, a bu anhwyldeb y meddwl arno weddill ei ddyddiau. Cyhoeddodd fân draethodynnau, a golygodd Telyn Dewi, 1824. Fe'i siomwyd pan apwyntiwyd y Parch. D. L. Jones (Glynadda) yn athro yng Ngholeg Caerfyrddin, a bu yn ei fryd ef a John James, Gellionnen, agor coleg yng Nghastell Nedd, ond ni ddaeth dim o'r peth. Bu farw 4 Rhagfyr 1846, a chladdwyd ym mynwent capel Heol Awst, Caerfyrddin.

TIMOTHY DAVIS (1779 - 1860), gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr

Ail fab 'Dafis Castellhywel'. Wedi'i addysgu gartref, yn Ysgol y Coleg, Caerfyrddin, o dan David Peter, o 3 Ionawr 1798 hyd ei fynd i'r coleg yng Nghaerfyrddin (1798-1802), tua 1801 daeth yn gydweinidog â'i dad er ei fod ar yr un pryd yn gofalu am Ysgol y Coleg o dan Peter - 'Even at Carmarthen my last two years were spent in attending principally to the Grammar School.' Bu'n weinidog yn Llwynrhydowen o 1801/2 hyd 1810, ac yn ei ddyfod i'r Llwyn y ceir hwyrach asgwrn y gynnen rhwng 'Dafis Castellhywel' a'r Dr. Charles Lloyd. Bu yn weinidog Coventry (1810-9) ac Evesham (1819 hyd 18 Gorffennaf 1853). Cyfieithodd (ran o) Coke, Scripture Commentary, a chyhoeddodd ddwy bregeth Gymraeg (1832 ac 1848). Bu farw 28 Tachwedd 1860. Mae ei ddyddiaduron hynod ddiddorol bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol - NLW MS 5487-99 .

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.