DAVIES, DAVID (1763 - 1816), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: David Davies
Dyddiad geni: 1763
Dyddiad marw: 1816
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llangeler, Sir Gaerfyrddin 12 Mehefin 1763, yn fab i dafarnwr; ni chafodd ysgol ond ysgol y pentre (ymhell ymlaen ar ei fywyd, pan oedd yn Abertawe, cafodd ganiatâd ei eglwys i fwrw pedwar mis yn academi Hackney); priododd yn llanc, a chafodd chwech o blant. Tua'r 20 oed, ymunodd (fel Christmas Evans) â chynulleidfa Arminaidd-Ariaidd Penrhiw; ond yn bur fuan troes at Annibynwyr Calfinaidd Pencadair. Dechreuodd bregethu tua 1784-5, ac yn 1790 urddwyd ef i gynorthwyo gweinidog Llangeler, eglwys a oedd ar fin tranc. Gymaint oedd ei lwyddiant nes bu raid codi capel newydd (Saron) yn 1792; gweithredai hefyd fel gweinidog y Neuaddlwyd a Gwernogle, er mor bell oeddynt oddi wrth ei gilydd ymwelai'n fisol â hwy. Yn 1795, galwyd ef i ddilyn Lewis Rees yn eglwys Mynydd-bach (Abertawe) a'i changhennau. Yno drachefn bu'n llwyddiannus i'w ryfeddu; cododd gapel (Ebeneser) yn nhref Abertawe yn 1803, ac yn 1808 rhoes Fynydd-bach i fyny, gan ei gyfyngu ei hun i Ebeneser a'r Sgeti. Bu farw 26 Rhagfyr 1816. Y mae David Davies yn ffigur hanesyddol yn ei enwad; yn wir, deil rhai mai efo oedd y pregethwr mwyaf a fu gan yr Annibynwyr. Ynddo ef, ond odid, y torrwyd gyntaf ar hen draddodiad y Presbyteriaid a'r Annibynwyr, a fynnai weinidogion wedi bod dan gwrs o addysg mewn academi; ynddo ef a'i debyg y sylweddolir dylanwad y Diwygiad Methodistaidd ar yr Hen Ymneilltuwyr. Teithiai'n ddiflino i bobman i bregethu. Yr oedd yn bregethwr grymus dros ben, a chanddo lais godidog, ond hefyd sylwedd yn ei bregethau, serch (wrth raid) nad oedd ôl disgyblaeth ddiwinyddol gyfundrefnol arnynt. Cyfansoddodd gryn nifer o emynau. Yr oedd hefyd yn drefnydd da: plannodd nifer o eglwysi, a chododd do o bregethwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.