DAVIES, DAVID (1810 - 1875), cerddor

Enw: David Davies
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1875
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

trigai yn Tŷ'n-y-fawnog, Llanfaircaereinion. Daliai dir perthynol i ffermdy fechan o'r enw Cyddoleu, ac a elwid hefyd yn Glan-yr-afon, am nad oedd ond dôl fechan rhyngddo ag afon Rhiw. Mewn beudy perthynol i'r ffermdy y cyfansoddwyd y dôn boblogaidd ' Glan'rafon,' 2.8., a genir yn wastad gan ein cynulleidfaoedd; ymddangosodd yn Llyfr Emynau a Thonau (Stephen a Jones), 1868.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.