DAVIES, DAVID (1818 - 1890), Llandinam, diwydiannwr ac Aelod Seneddol

Enw: David Davies
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1890
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr ac Aelod Seneddol
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Ivor Bulmer-Thomas

Ganwyd yn Llandinam, 18 Rhagfyr 1818, yr hynaf o naw o blant David ac Elisabeth Davies. Gadawodd ysgol y pentref pan oedd yn 11 oed ac aeth i helpu ei dad ar y fferm a llifio coed dros eraill am dâl; gymaint oedd ei rymuster fel llifiwr nes yr ymffrostiai yn ddiweddarach yn ei oes a'i alw ei hun yn ' top sawyer.' Pan fu farw ei dad yn 1846 syrthiodd gofal amryw o'r brodyr a'r chwiorydd ieuengaf ar ei ysgwyddau ef. Yr un flwyddyn fe'i gwahoddwyd i osod sylfeini pont dros afon Hafren yn Llandinam a'r ffordd tuag at y bont. Dyma bellach newid cwrs ei fywyd - daeth i ymgymryd â gwaith cyffelyb ar raddfa eang. Yn 1855 gwnaeth adran gyntaf y rheilffordd rhwng Llanidloes a'r Drenewydd (a agorwyd yn 1859). Yn ddiweddarach, gyda gwahanol bartneriaid - Thomas Savin yn eu plith - gwnaeth reilffyrdd eraill - dyffryn Clwyd (a agorwyd yn 1858), Croesoswallt a'r Drenewydd (1861), y Drenewydd a Machynlleth (1862), Penfro a Dinbych-y-pysgod (1863 - fe'i hestynwyd i'r Tŷ-gwyn-ar-Daf yn 1866), y ' Manchester and Milford ' (o Bencader i Aberystwyth, 1867), y Fan (o Gaersws i weithydd mwyn y Fan, 1871). Benjamin Piercy oedd y peiriannydd ar y rhan fwyaf o'r rheilffyrdd hyn; yn 1862 aeth David Davies gyda Piercy i Sardinia, pan wahoddwyd y peiriannydd i gynghori'r cwmni a oedd wedi cael yr hawl i wneud rheilffyrdd yn yr ynys honno.

Yn 1864 prydlesodd David Davies dir yn rhan uchaf Cwm Rhondda Fawr a thorrodd byllau glo 'r Parc a'r Maendy. Ffurflwyd cwmni preifat - ' David Davies and Co. ' - yn 1867 o dan ei lywyddiaeth ef i weithio'r pyllau ' Ocean Merthyr ' hyn, a thyllwyd pyllau eraill - Dare (1868), Western ac Eastern (1872), Garw (1884), a Lady Windsor (1887). Erbyn 1887 yr oedd cynnyrch y pyllau wedi cynhyddu cymaint nes y penderfynwyd ffurfio cwmni newydd - yr ' Ocean Coal Company Ltd. '

Oherwydd na allai'r Taff Vale Railway a dociau ardalydd Bute yng Nghaerdydd ddelio â chymaint yn ychwaneg o drafnidiaeth, penderfynodd David Davies wneuthur doc newydd yn y Barri a chael rheilffordd yno o'r Rhondda. Yn wyneb gwrthwynebiad cryf yn y Senedd - a thu allan iddi - llwyddodd yn ei ymgyrch a gorffennwyd y gwaith yn 1889.

Llwyddodd David Davies gymaint yn y byd diwydiannol nes dyfod yn ŵr cyfoethog iawn; prynodd ystadau a dechreuodd gymryd rhan ym mywyd cyhoeddus y wlad. Yn 1865 methodd (yn erbyn Rhyddfrydwr arall) â chael ei ddewis yn aelod seneddol dros sir Aberteifi; llwyddodd, yn 1874, a thrachefn yn 1880, i gael ei ethol, heb wrthwynebiad, yn aelod dros fwrdeisdrefi Ceredigion. Fe'i dychwelwyd yn 1885 hefyd, eto heb wrthwynebiad; yn 1886, fodd bynnag, anghytunodd â Mr. Gladstone ar fater ymreolaeth i Iwerddon a chollodd ei sedd.

Yr oedd David Davies yn un o lywodraethwyr cynharaf Coleg Prifathrofaol Aberystwyth; yn 1875 fe'i hetholwyd yn drysorydd a bu'n dal y swydd honno hyd 1887. Fe'i dewiswyd yn ddi-wrthwynebiad yn 1889 i gynrychioli Llandinam ar gyngor sir cyntaf sir Drefaldwyn.

Priododd, yn 1851, Margaret Jones, o Lanfair Caereinion, a bu iddynt un mab - EDWARD DAVIES. Bu farw 20 Gorffennaf 1890 ar ôl dioddef afiechyd hir.

Yn rhinwedd ei alluoedd a'i ymdrechion ei hun y daeth David Davies yn gyfalafwr. Yr oedd yn ddyledus am ei lwyddiant i gyfuniad o wroldeb a phwyll. Nid amharwyd ar rinweddau ei fywyd boreol syml gan y cyfoeth mawr a gasglodd ac y bu yn rhannu cymaint ohono i achosion crefyddol ac addysgol ac i unigolion. Fe'i dygwyd i fyny'n Fethodist Calfinaidd, yr oedd wrth natur yn grefyddol ei ysbryd, ac fe barhaodd yn Biwritan yn ei syniadau am y wirod a chadwraeth y Saboth. Er bod ei ymadrodd yn syml, heb ei ddisgyblu, yr oedd ganddo gryn fesur o huodledd cartrefol a hiwmor dyn o'r wlad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.