DAVIES, EVAN (1826 - 1872), addysgwr

Enw: Evan Davies
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1872
Rhiant: Timothy Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgwr
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 26 Mehefin 1826 yn y Gelli, Llan-y-crwys, yn fab i Timothy Davies, ac addysgwyd yn Ffrwd-y-fâl gan William Davies (1805 - 1859) ac wedyn ym Mryste. Wynebai ar y weinidogaeth, ac aeth i Glasgow, yn ' Ysgolor y Dr. Williams '; graddiodd yno, ac ymhen hir amser wedyn (1858) graddiodd drachefn, yn LL.D. Yn nyddiau ei goleg, cychwynnwyd y Mudiad (Addysg) Gwirfoddol ymhlith Ymneilltuwyr y Deheudir, dan arweiniad David Rees (1801 - 1869) o Lanelli, ac mewn cyfres o gynadleddau yn 1845 penderfynwyd agor coleg hyfforddi athrawon (1846) yn Aberhonddu. Penodwyd Evan Davies yn brifathro ar hwn, wedi iddo fwrw cyfnod o hyfforddiant yng ngholeg Borough Road. Symudwyd y coleg i Abertawe yn 1849, ond yn herwydd edwiniad y Mudiad Gwirfoddol a'r pall ar ei adnoddau ariannol, caewyd ef yn 1851 - yr oedd i atgyfodi, ymhen blynyddoedd, yn goleg hyfforddi athrawesau yn Abertawe. Troes Davies y sefydliad yn ysgol breifat, ond yn 1867 trosglwyddodd honno i Dan Isaac Davies, a chymerodd at y gyfraith - daeth yn y diwedd yn bartner mewn swyddfa gyfreithiol. Gyda hynny, yr oedd yn gerddor o gryn fri. Bu farw 22 Awst 1872.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.