DAVIES, GETHIN (1846 - 1896), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a phrifathro coleg

Enw: Gethin Davies
Dyddiad geni: 1846
Dyddiad marw: 1896
Rhiant: Catherine Davies
Rhiant: Joseph Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: James Frederick Rees

Ganwyd yn Aberdulais, 18 Medi 1846, mab Joseph a Catherine Davies. Ac efe eto'n blentyn symudodd ei rieni i Landŵr, lle y daeth y tad yn bennaeth ar y ' Landore Tinplate Works.' Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd Hafod; bu'n ddisgybl-athro yno hefyd am bum mlynedd. Yn 1864 aeth i'r Graig House Academy, Abertawe, a gedwid ar y pryd gan G. P. Evans, gweinidog eglwys y Bedyddwyr yn York Place. Oddi yno aeth i Goleg y Bedyddwyr, Bryste, yn 1866, a thra yno dilynodd gwrs ar gyfer gradd allanol Prifysgol Llundain - gan basio'r arholiad canol - yn ychwanegol at gwrs diwinyddol arferol y coleg. Fe'i dewiswyd yn athro'r clasuron yng Ngholeg y Bedyddwyr, Llangollen, yn 1872.

O'r adeg yr aeth i Langollen ymroes Davies yn egnïol i'r gwaith o gryfhau achos y Bedyddwyr yng Ngogledd Cymru; rhoes gymorth arbennig i'r eglwysi gweiniaid. Yr oedd galw mawr amdano hefyd fel pregethwr, arweinydd cymanfaoedd canu, a beirniad mewn eisteddfodau. Fe'i dewiswyd i ddilyn y prifathro Hugh Jones yn 1883.

Cododd sefydlu Coleg Prifathrofaol Gogledd Cymru yn 1884 y cwestiwn a ddylid symud Coleg y Bedyddwyr o Langollen i Fangor. Canfu Davies fod datblygiad addysg prifathrofaol yng Nghymru yn beth newydd a phwysig; dadleuai ef o blaid trefnu i addysg seciwlaraidd gweinidogion Ymneilltuol gael ei chyfrannu gan y colegau prifathrofaol. Er gwaethaf llawer o wrthwynebiad fe gafodd ei ffordd ac fe symudwyd Coleg y Bedyddwyr o Langollen i Fangor yn 1892; credai ef yn gryf y dylid cadw coleg i'r Bedyddwyr yng Ngogledd Cymru gan fod cymaint o eglwysi'r enwad yn dibynnu ar y cymorth y gallai coleg enwadol ei roddi iddynt.

O dan y ffugenw ' Gethin Dulais ' ysgrifennodd farddoniaeth i gyfnodolion Cymreig; cyfansoddodd rai emynau Cymraeg hefyd. Bu farw yn Llundain, 17 Mawrth 1896.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.