DAVIES, JOHN GWYNORO (1855 - 1935), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Gwynoro Davies
Dyddiad geni: 1855
Dyddiad marw: 1935
Priod: Jeannie Mary Davies (née Watkin)
Priod: Mary Davies (née Jones)
Rhiant: Evan Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Watkin Davies

Ganwyd 28 Chwefror 1855 yn Llanpumpsaint, mab y Parch. Evan Davies. Cafodd ei addysg yn ysgol y pentref, daeth yn ddisgybl-athro, ac, yn 20 oed, yn brifathro ysgol y Dinas, Rhondda. Cymerai ddiddordeb arbennig mewn dysgu cerddoriaeth yn yr ysgolion.

Penderfynodd fynd i weinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd ac aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn 1877, cyn mynd i Goleg y Bala. Cyd-letyai yn Aberystwyth â (Syr) Owen M. Edwards, a i cyflwynodd ef i T. E. Ellis ac a'i cynorthwyodd i gael ei fugeiliaeth gyntaf - yn Llanuwchllyn. Yn 1887 symudodd i fugeilio eglwys Caersalem, Abermaw, lle y bu hyd ei farw, 23 Mawrth 1935.

Yr oedd Gwynoro yn Rhyddfrydwr radicalaidd pybyr ac yn Gymro gwladgarol; yr oedd ei ddiddordeb yn fwy mewn materion cyhoeddus, yn enwedig materion addysgol, nag mewn crefydd enwadol. Bu'n gadeirydd cyngor dinesig Abermaw am 17 mlynedd, ac yr oedd yn aelod o bron bob pwyllgor cyhoeddus yng Nghymru. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i'r Gwyddoniadur Cymreig, a chyhoeddodd Flashes from the Welsh pulpit, cyfrol yr ysgrifennodd Thomas Charles Edwards ragymadrodd iddi. Priododd (1) Mary, merch John Jones ('Ivon'), a (2), Jeannie Mary, merch William Watkin, Muriau, Cricieth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.