DAVIES, JAMES (bu farw 1760), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: James Davies
Dyddiad marw: 1760
Plentyn: Mary Williams (née Davies)
Plentyn: Samuel Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Brodor o blwyf Llanedi, a fu yn academi Caerfyrddin. Yn 1712, urddwyd ef yn weinidog Troed-rhiw-dalar a Llanwrtyd, ond yn 1724 symudodd i Gwm-y-glo, rhwng Merthyr Tydfil ac Aberdâr. Cydofalaeth oedd hon â chynulleidfa bellennig Cefn Arthen ger Llanymddyfri - ill dwy'n hanfod o'r hen 'Gynulleidfa Brycheiniog' dan Henry Maurice ac ill dwy'n gymysg o Galfiniaid ac Arminiaid. Y cydweinidog hynaf oedd Roger Williams, Armin, a breswyliai yng Nghefn Arthen ac a oedd yn ei swydd er 1698; ar ei farwolaeth ef (1730) darfu'r cyswllt rhwng y ddwy gynulleidfa, ond nid y gwahaniaethau diwinyddol oddi mewn i'r naill na'r llall. Yr oedd James Davies nid yn unig yn Galfin ond hefyd yn perthyn i'r adran 'genhadol' o'r Ymneilltuwyr. Teithiai'n ddyfal i bregethu ym Mlaenau Morgannwg a Gwent (Edmund Jones, History of Aberystruth, 99, a'i ddyddlyfr 1773); a phan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd fe'i croesawodd yn galonnog, a gwahodd Howel Harris i bregethu yn y Blaeneudir - y mae dau lythyr ganddo at Harris (138 a 145, ill dau yn 1739) yng nghasgliad Trefeca yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn 1738, rhoes y blaid Arminaidd yng Nghwm-y-glo alwad i Richard Rees , ffermwr cefnog Gwernllwyn Uchaf (bu farw 1749), i fod yn gyd-fugail â Davies, ac aeth cydfyw rhyngddynt yn gynyddol anodd, nes i'r Arminiaid ymado yn 1747 a chodi achos newydd Cefn-coed-cymer (sydd bellach ers tro mawr yn Undodaidd). Gan fod prydles eu ty-cwrdd hanesyddol yn tynnu at ei therfyn, prynodd Davies a'i bobl (Chwefror 1749) y llecyn y saif capel Ynysgau yn nhref Merthyr arno; ac yn 1750 daeth SAMUEL DAVIES, mab James Davies, yno'n gydweinidog - yn 1751, corfforwyd yr aelodau yn ochrau Aberdâr yn gynulleidfa ar wahân. Yn fuan, amlygodd Samuel Davies olygiadau Arminaidd, ac ailadroddwyd helyntion Cwm-y-glo yn Ynysgau. Methodd James Davies gadw pethau'n wastad, aeth bron yn ddigyfaill, a bu farw yng Ngwernllwyn Isaf, 29 Ebrill 1760. Yn nyddlyfr Philip David o Benmain, dan 3 Mai, cyfeirir yn brudd at boblogrwydd dirfawr James Davies gynt, a'r diffyg parch y syrthiodd iddo drwy anwadalwch a derbyn wyneb. Cyfeiria Edmund Jones (dyddlyfr, 15 Awst 1773) ato'n swta fel 'gwrthgiliwr' - y mae'n eglur hefyd oddi wrth eiriau Edmund Jones yn y fan hon fod merch i James Davies yn briod â David Williams (1709 - 1784), gweinidog Watford a Chaerdydd.

SAMUEL DAVIES (bu farw 1781)

Bu yng Nghaerfyrddin ar yr un adeg â Thomas Morgan, 'Henllan'; sieryd Morgan yn uchel iawn amdano, ac yr oedd yn bresennol pan urddwyd Davies (1746) yn weinidog yn Wiltshire. Y mae gan ddyddlyfrau Philip David ac Edmund Jones gyfeiriadau chwerw at ei 'gyfeiliornadau' Arminaidd (neu Ariaidd), ond y mae'n eglur fod ei bobl yn Ynysgau 'n neilltuol hoff a pharchus ohono. Bu farw 18 Mawrth 1781. Ni lwyddwyd i ddarganfod blynyddoedd geni'r tad na'r mab.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.