DAVIES, JENKIN (1798 - 1842), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Jenkin Davies
Dyddiad geni: 1798
Dyddiad marw: 1842
Rhiant: Evan Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Tirgwyn gerllaw Pensarn, Ceredigion, 24 Mehefin 1798, yn fab i Evan Davies, cynghorwr a oedd yn un o gefnogwyr cryfaf ordeiniad 1811. Bu mewn ysgolion yn Llwyn Dafydd, Aberteifi, a'r Ceinewydd, a chymerodd fferm Synod Uchaf. Dechreuodd bregethu yn 1825, y flwyddyn y bu farw ei dad ysbrydol Ebenezer Morris, a syrthiodd arolygiaeth seiadau cylch Twrgwyn i bob pwrpas ar ei ysgwyddau ef. Yn 1833 fe'i hordeiniwyd (yn Aberteifi); ymadawodd âi fferm ac aeth i fyw i Faelon Uchaf yn ymyl Twrgwyn - hynny yw, efe oedd bugail Twrgwyn, er nad oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd 'fugeiliaeth' swyddogol yn y cyfnod hwnnw. Ni rydd y cofnod main hwn o'i yrfa syniad o bwysigrwydd Jenkin Davies yn hanes Methodistiaeth gwaelod Ceredigion; yr oedd yn bregethwr nodedig, a derbyniol ym mhob rhan o Gymru ac yn Llundain, ac yr oedd gan wŷr fel Henry Rees a Lewis Edwards feddwl neilltuol uchel ohono. Bu farw 10 Awst 1842. Y mae Cofiant byr iddo, gan Abel Green a J. Hugh Jones (Castellnewydd Emlyn, 1845). Yr oedd yn briod, a chanddo deulu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.