DAVIES, JOHN ('Brychan '; 1784? - 1864), bardd, golygydd, a hyrwyddwr mudiad y cymdeithasau cyfeillgar

Enw: John Davies
Ffugenw: Brychan
Dyddiad geni: 1784?
Dyddiad marw: 1864
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, golygydd, a hyrwyddwr mudiad y cymdeithasau cyfeillgar
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd (yn ôl J.T. J., i, 155) ar dyddyn o'r enw Clyn, ym mhlwyf Llanwrthwl, gogledd Brycheiniog - tebyg mai camddeall yr ymadrodd 'ym mlaenau sir Frycheiniog' a arweiniodd rai i ddweud Blaenau Gwent. Y mae'r ychydig iawn a wyddom am fore ei oes i'w gael yn J.T. J.; ni chafodd awr o ysgol; wedi tyfu, ymadawodd a'i gartref anghysbell ac aeth i Abertawe; yno, cytunodd i fynd yn forwr, a bu ar y mor am dair blynedd; ar y llong y dysgodd ddarllen a sgrifennu. Yn y cyfamser, bu farw ei dad, a symudodd ei fam a'i frodyr i Dredegar. Ymunodd yntau â hwy, a bu am flynyddoedd yn gweithio dan y ddaear; codwyd ef yn ' foreman.' Wedyn, bu am flynyddoedd yn llyfrwerthwr a chyhoeddwr. Yn wir, y mae ei yrfa'n enghraifft ddiddorol o'r modd y gwladychodd y diwylliant gwledig Cymraeg ymysg cymdeithas ddiwydiannol afluniaidd y Blaeneudir. Daeth dan ddylanwad ' Iolo Morganwg ' (tua 1814), a derbyniwyd ef i ' Orsedd ' hwnnw yn 1818; cymerth ran flaenllaw yn y mudiad eisteddfodol yng Ngwent, a chydweithiodd â Taliesin ab Iolo, Carnhuanawc, Cynddelw, D. Rhys Stephen, a llenorion eraill yr ardal yn y cyfnod hwnnw. Canu rhydd, er hynny, oedd fwyaf at ei chwaeth ef. Sgrifennodd lawer i Seren Gomer, a bu'n dyfal olygu a chyhoeddi blodeugerddi (gan Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 609-11, y ceir y disgrifiad gorau ohonynt); argraffwyd hwy drosto ym Merthyr Tydfil. Yn 1824 cyhoeddodd Llais Awen Gwent a Morganwg - cynnwys hwn, fel y gweddill, ddarnau ganddo ef ei hun a chan eraill; yn 1825, Y Gog (daeth arg. eraill o Gaerfyrddin yn 1832, 1846, a 1849); yn 1827 Y Llinos; ac yn 1835 Y Fwyalchen. Cyhoeddodd hefyd (1828) Telyn y Cantorion, gwaith rhyw John Thomas; Newyddion Da o Wlad Bell, llythyrau o America gan ddeuddyn o Fynyw, 1830 - dogfen awgrymog o'r flwyddyn honno; a chyfieithiad (1852) o ' Lyfr Mormon.' Gyda'r gweithgarwch canmoladwy hwn i ddarparu llenyddiaeth Gymraeg i wŷr y Blaeneudir, ymdrechodd hefyd ym mhlaid sobrwydd a darbodaeth, yn bennaf trwy hyrwyddo Cymdeithas yr Odyddion ('Oddfellows'). Ceisiodd Gymreigio'r mudiad hwn; lluniodd gân Gymraeg at ei wasanaeth (1840); gwnaeth gyfieithiad Cymraeg o'i Reolau (Caerdydd, 1842); a chychwynnodd gylchgrawn, Yr Odydd Cymraeg, yn 1831, ond ni lwyddodd hwnnw. Gellid meddwl ei fod yn ddyn rhadlon a hoffus. Bu farw 20 Mehefin 1864 (J.T. J.), 'ar fin 80 mlwydd oed' (Enw. F., 77).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.