Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , JOHN ( Dr. John Davies o Fallwyd ) , c. 1567 - 1644 , un o ysgolheigion mwyaf Cymru ;

g. ym mhlwyf Llanferres yn sir Ddinbych , yn fab Dafydd ap Sion ap Rhys , gwehydd (meddir) wrth ei alwedigaeth, a'i wraig Elsbeth ferch Lewis ap Dafydd Llwyd ; yr oedd ganddo dair chwaer, Jane , Catrin , a Gwen .

Prin iawn yw'r hanes amdano cyn iddo fynd i Fallwyd . Dywedir iddo dreulio pedair blynedd yng Ngholeg Iesu , Rhydychen , a graddio'n B.A. yno ar 16 Mawrth 1593-4 . Gwyddys oddi wrth un o'i lythyrau ( N.L.W. MS. 14529 ) iddo drigiannu yng nghyffiniau Llandaf , o bosibl rhwng 1595 a 1601 pan oedd William Morgan yn esgob yno. Yr oedd cysylltiad agos rhyngddo a'r esgob Morgan ; yn y rhagymadrodd i'w ramadeg ( 1621 ) cyfeiria ato'i hun fel cynorthwyydd annheilwng i'r naill a'r llall o gyfieithwyr y Beibl i'r Gymraeg , sef William Morgan a Richard Parry , ac yn y rhagymadrodd i'r geiriadur ( 1632 ) y mae'n talu teyrnged i'r blaenaf fel y Gamaliel yr addysgwyd ef wrth ei draed.

Dywedir yn gyffredin mai tua diwedd 1604 , ar ôl marwolaeth yr esgob Morgan , y cafodd John Davies reithoriaeth Mallwyd yn sir Feirionnydd , ond os cywir y dyddiadau a roddir yn N.L.W. MS. 1626 gwnaethpwyd y penodiad cyn i'r esgob farw. Graddiodd yn B.D. o Goleg Lincoln , Rhydychen , ar 30 Mehefin 1608 , ac yn D.D. ar 21 Mawrth 1615-6 . Rywbryd tua 1609 priododd Siân Prys o'r Llwyn Ynn ym mhlwyf Llanfair Dyffryn Clwyd , wyres o du ei mam i'r barwn Lewis Owen o Ddolgellau , a chwaer i wraig yr esgob Richard Parry , olynydd William Morgan yn Llanelwy . Ddechrau 1614 cafodd reithoriaeth Llanymawddwy gerllaw Mallwyd a segurswydd Darowen yn sir Drefaldwyn , ond rhoddodd yr olaf i fyny yn 1621 pan gafodd segurswydd Llanfor ym Mhenllyn . Yn 1617 cafodd ei benodi'n brebendari Llannefydd yn eglwys gadeiriol Llanelwy . Ym Mallwyd yr oedd yn byw ac ‘yn anfynych’ yn unig y bu oddi yno hyd ei farwolaeth — yn Harlech , yn ôl William Maurice ( Cefnybraich , Llansilin ) , 15 Mai 1644 . Claddwyd ef ym Mallwyd ar 19 Mai . Y mae ei ewyllys ar gael.

Perthyn ei waith cyhoeddedig i'r blynyddoedd 1620-1 a 1632-3 . Fel Beibl Richard Parry yr adwaenir argraffiad 1620 o'r Beibl Cymraeg , ond bernir heddiw mai John Davies biau llawer o'r clod am lendid a chywirdeb yr iaith; dichon fod iddo ran yn argraffiad 1621 o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn ogystal. Yn 1621 hefyd ymddangosodd gramadeg John Davies ei hunan, Antiquae Linguae Britannicae…Rudimenta . Dilynwyd y gramadeg yn 1632 gan y Dictionarium Duplex neu'r geiriadur dyblyg Cymraeg - Lladin a Lladin - Cymraeg , y naill adran ohono'n waith gwreiddiol wedi ei ddechrau yn 1593 a'r adran arall yn dalfyriad o waith mwy gan Dr. Thomas Wiliems o Drefriw sydd eto mewn llawysgrif ( Pen. MS. 228 ); treuliodd John Davies flwyddyn gyfan bron yn Llundain pan oedd y geiriadur yn y wasg. Ef hefyd oedd cyfieithydd Llyfr y Resolusion ( 1632 ) a golygydd Y Llyfr Plygain a'r Catechisme ( 1633 ). Ar ôl ei farw y cyhoeddwyd yr Articulau ( 1664 ) a'r Flores Poetarum Britannicorum ( 1710 ).

Erys hefyd nifer o'r llawysgrifau a gopïwyd ganddo a throsto. Ffrwyth astudiaeth fanwl o'r ffynonellau hyn ac o waith y beirdd yn arbennig yw'r gramadeg a'r geiriadur a gyhoeddodd; ynddynt hwy gosododd sylfaen gadarn i astudiaethau diweddar o'r iaith Gymraeg .

Ffynonellau:

  • Ymchwil bersonol;
  • T. Parry , Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (1944) 1900, 1944, 158 et passim ;
  • Calendar of Wynn (of Gwydir) Papers, 1515–1690, in the National Library of Wales and elsewhere (1926) , 1926 ;
  • Y Cymmrodor , xvii, 164;
  • Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 , ii.

Awdur:

Rhiannon Francis Roberts, M.A., (1923-90), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54