DAVIES, JOHN (1625 - 1693), 'of Kidwelly', cyfieithydd llyfrau

Enw: John Davies
Dyddiad geni: 1625
Dyddiad marw: 1693
Rhiant: William Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfieithydd llyfrau
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yng Nghydweli, 25 Mai 1625 yn ôl Anthony Wood (eithr awgrymir 1627 gan Sidney Lee yn D.N.B.), mab William Davies, ffermwr. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, 16 Mai 1641, eithr oherwydd amgylchiadau'r dref honno wedi i'r Rhyfel Cartrefol dorri allan symudodd i Gaergrawnt ac ymaelodi yng Ngholeg S. Ioan, 14 Mai 1646. Wedi hynny bu'n trafaelio yn Ffrainc, gan ddysgu'r iaith yn dda. Wedi dychwelyd i Lundain dechreuodd gyfieithu llyfrau, o'r Ffrangeg gan mwyaf, dros lyfrwerthwyr. Cyhoeddwyd dros 30 o'r cyfieithiadau hyn rhwng 1654 (Treatise against the Principles of Descartes) a 1680 (Blondell's Pindar and Horace compared), ac efallai ar ôl 1680. Ceir teitlau 30 ohonynt yn yr erthygl ar Davies yn y D.N.B.; y mae gan yr Amgueddfa Brydeinig tua 32, ac erbyn 1949, yr oedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi casglu 12 cyfrol. Ceir llythyrau gan Davies yn rhagflaenu gweithiau ei gyfaill John Hall, bardd y daeth i'w adnabod pan oedd yn efrydydd yng Nghaergrawnt; Davies hefyd a olygodd, y mae'n debyg, Enchiridion, 1686, gwaith ei gyfaill Henry Turberville. Dywedir weithiau mai efe ydyw'r 'J.D.' a ysgrifennodd Civil Warres of Great Britain and Ireland (London, 1661). Bu farw 22 Gorffennaf 1693.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.