DAVIES, JOHN ('Siôn Dafydd,' ' Siôn Dafydd Lâs '; bu farw 1694), ' bardd teulu ' Nannau, gerllaw Dolgellau;

Enw: John Davies
Ffugenw: Siôn Dafydd, Siôn Dafydd Lâs
Dyddiad marw: 1694
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd teulu
Cartref: Nannau
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Menai Williams

Dywedir ei eni yn y Pandy, Llanuwchllyn, a thybir iddo fyw am gyfnod yn Tŷ'n-y-ffridd. Awgryma Evan Roberts, Llandderfel (Seren y Bala, 29 Tachwedd 1950), mai efe a gyfansoddodd yr alaw a elwid gynt yn ' Dafydd y Garreg Las ' ('Pant corlan yr ŵyn ' yw ei henw erbyn hyn); os felly, y mae'n debyg ei fod yn delynor hefyd.

Y mae'n bwysig am ei fod ymhlith y to diwethaf o'r beirdd a noddid gan aelodau'r hen deuluoedd tiriog Cymreig. Canodd i deuluoedd yng Ngogledd Cymru - Nannau, Doluwcheogryd, Maesyneuadd, Glyncywarch, Dolaugwyn, Cefnamwlch, Gloddaeth, Bodysgallen, Corsygedol, Maesypandy, Tanybwlch, etc. Heblaw cywyddau ac englynion, canodd garolau. Ysgrifennodd farwnadau pan fu farw'r bardd Edward Morus, a Morris Parry, ' person Llanelian ag un o'r prydyddion goreu yn ei amser'; canodd farwnad y brenin Siarl II hefyd. Canwyd marwnadau iddo yntau gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy - gweler O. M. Edwards, Gwaith Owen Gruffydd ('Cyfres y Fil'); yn ôl y cywydd hwn yn 1694 y bu John Davies farw - a chan Lewis Owen (gweler Cwrtmawr MS 5B (i-ii) ).

Yr oedd 'Siôn Dafydd ' yn ewythr i David Jones o Drefriw, argraffydd a chyhoeddwr; ar hyn gweler Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, vii, 73-4.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.